Bydd Sefydliad Gofal Brys a Gofal Heb ei Drefnu Cymru (WIEUC) yn darparu fforwm i academyddion, arweinwyr cynllunio gofal iechyd strategol, darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau i gydweithio a thrafod gofal iechyd y tu allan i'r ysbyty a sut y gellir mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ei ddarparu.

Ein Gweledigaeth

Bydd y Sefydliad yn gweithredu fel ffocws ar gyfer addysg gofal brys a gofal heb ei drefnu, ymchwil a dylanwad strategol yng Nghymru ac yng nghyd-destun ehangach arferion gofal brys a gofal heb ei drefnu yn y DU, yr UE ac yn rhyngwladol. Yr ysgogiad yw datblygiad rhagoriaeth barafeddygon a'r buddion a ddaw yn sgil hynny i'r ddarpariaeth gofal iechyd.

Nodau

Rydym yn archwilio’r ddarpariaeth gwasanaeth integredig bresennol ar gyfer gofal brys a heb ei drefnu yn seiliedig ar dystiolaeth leol a chenedlaethol gyda’r bwriad o ailgynllunio strwythurau cyflawni a datblygu gweithwyr iechyd proffesiynol i ddarparu darpariaeth iechyd rhagorol ond darbodus i bobl Cymru.

Bydd rhagoriaeth o'r fath yn alinio meddygon ag ymarferwyr arbenigol (parafeddygol a nyrsio) i ddarparu rheolaeth a thriniaeth gofal amserol ac effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae gan addysg uwch rôl bwysig o ran hwyluso datblygiad proffesiynol gan sicrhau ei fod yn addas ar gyfer ymarfer a'i anghenion. Gall gwaith partneriaeth cryf gynhyrchu ymarferwyr sydd nid yn unig yn cyfrannu at y GIG ehangach o ran cost-effeithiolrwydd ond hefyd ymarferwyr a all gael effaith ddwys ar anghenion gofal unigol cleifion.

Lawrlwythwch ein Cyflwyniadau

Vice Chancellor, Ceri Phillips and Andy.

Cysylltwch â Ni

E-bost 

+44 (0)1792 513376