Roedd casgliad cyntaf o straeon gwefreiddiol Nam Le, The Boat, yn bersonol ac yn fyd-eang ei gwmpas ac mae wedi cael ei ganmol yn helaeth am ei ras a’i ‘ryddiaith dreiddiol a chofiadwy’.
Yn enedigol o Fietnam, cafodd Nam Le ei fagu yn Awstralia a bu’n gweithio i ddechrau fel cyfreithiwr cyn troi at ysgrifennu. Bu ganddo gymrodoriaethau gyda’r Ganolfan Gwaith Celfyddydau Cain yn Provincetown, Canolfan Bellagio, Sefydliad Bogliasco, Sefydliad Camargo, Civitella Ranieri, Santa Maddalena a lleoedd eraill.
Mae The Boat wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn rhyngwladol, cafodd ei gyfieithu i 15 iaith ac enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Lenyddol Prif Weinidog Awstralia, Gwobr Anisfield-Wolf am Lyfr a Gwobr PEN/Malamud.