Cystadleuaeth Adolygu Llyfr 2017
Mewn Partneriaeth â Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2017, gwahoddwyd ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid lleol i adolygu un o'r llyfrau ar y rhestr fer ar gyfer Cystadleuaeth Adolygu Llyfr DylanED 2017.
Ddydd Mercher, 10 Mai, mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Ddinas a Sir Abertawe yn Neuadd y Dref Abertawe, cyhoeddwyd yr enillwyr. Casglodd y tri eu tlws a chopïau o'r chwe llyfr ar y rhestr fer gan Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas.
Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Emily Reed o Goleg Gŵyr am ei hadolygiad o The Essex Serpent gan Sarah Perry. Ysgrifennodd Emily bod naratif y nofel "yn llawn disgrifiadau hardd a rhamantaidd o natur, gan greu awyrgylch barddonol bron fel breuddwyd, ond dal i fod yn nhirwedd Prydain oes Fictoria."
Yn yr ail safle roedd Willow Hovvels o Ysgol Gyfun Penyrheol, a adolygodd The Essex Serpent gan Sarah Perry hefyd. Meddai Willow mai'r hyn a oedd yn amlwg iddi hi drwy gydol y llyfr oedd arddull ysgrifennu Sarah Perry, ac nad oedd hi wedi darllen llyfr gan awdur arall a oedd yn creu'r un awyrgylch ag yr oedd Sarah wedi'i grefftio mor berffaith.
Daeth Jacob Lane o Ysgol Gymunedol Llangatwg yn drydydd am ei adolygiad o Cain gan Luke Kennard. Dywedodd Jacob fod casgliad o farddoniaeth Luke "yn cynnal cydbwysedd gwych rhwng hiwmor, coegni a difrifoldeb ac yn archwilio materion anuniongred a phwysig." Dywedodd Jacob hefyd fod casgliad Luke wedi "ennyn ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth a barddoniaeth.