Cyhoeddi Rhestr Fer 2017
Caiff rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ei chyhoeddi heddiw (28 Mawrth). Cafodd y wobr ei lansio yn 2006, a hon yw'r wobr lenyddol fwyaf yn y byd ar gyfer awduron ifanc, gwerth £30,000.
Mae Llyfr y Flwyddyn Waterstones 2016, The Essex Serpent gan Sarah Perry, ar y rhestr fer ynghyd â dwy nofel gyntaf: Pigeon gan Alys Conran o Gymru a The Story of a Brief Marriage gan Anuk Arudpragasm o Sri Lanca.
Mae cyfrol farddoniaeth, Cain gan Luke Kennard, hefyd ar y rhestr, ynghyd â dwy gyfrol o straeon byrion; Dog Run Moon: Stories gan Callan Wink a The High Places gan Fiona McFarlane.
Caiff y wobr ei chyflwyno am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn Saesneg, gan awdur 39 oed neu iau. Mae wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, yr awdur a aned yn Abertawe, ac mae'n dathlu 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae Dylan Thomas yn enwog yn fyd-eang am fod yn un o awduron mwyaf dylanwadol canol yr ugeinfed ganrif, ac mae'r wobr yn ei goffáu er mwyn cefnogi awduron heddiw a meithrin doniau'r dyfodol.
Mae'r rhestr fer lawn fel a ganlyn:
- The Story of a Brief Marriage – Anuk Arudpragasam – Sri Lanka (Granta)
- Pigeon – Alys Conran – DU (Parthian)
- Cain – Luke Kennard – DU (Penned in the Margins)
- The High Places – Fiona McFarlane – Awstralia (Farrar, Straus a Giroux)
- The Essex Serpent – Sarah Perry – DU (Serpent’s Tail)
- Dog Run Moon: Stories – Callan Wink – UD (Granta)
Mae cyhoeddwyr annibynnol yn dominyddu rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, gan roi cyfrif am bump o'r chwe llyfr.
Enillydd y llynedd oedd Max Porter am ei lyfr cyntaf clodwiw, Grief is the Thing with Feathers – cyfuniad o nofel fer, chwedl bolyffonig, traethawd yn ymwneud â galar. Ers hynny, mae Porter wedi ennill gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times am yr un llyfr.
Caiff y panel beirniadu ei gadeirio gan yr Athro Dai Smith CBE, o Brifysgol Abertawe, a dywedodd am restr fer eleni:
"O restr hir o 12 darn o lenyddiaeth hynod drawiadol o bob cwr o'r byd, penderfynodd y beirniaid, ar ôl trafodaeth hir, ar chwe darn yr oedd eu hansawdd, gwreiddioldeb a'u 'dazzle factor' yn sefyll allan. Mae gennym nofel fer o Sri Lanka, dau gasgliad o straeon byrion, un o Awstralia a'r llall o UDA, llyfr o farddoniaeth a nofel gan awdur o Loegr, a nofel gyntaf o Gymru. Maent oll yn enillwyr ynddynt eu hunain, ond bydd yr enillydd yn y diwedd, i'w gyhoeddi yn Abertawe ar Mai 10fed, eto'n sicrhau, o ddod o'r rhestr drawiadol hon, bod Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn syfrdanu a boddhau darllenwyr o amgylch y byd."
Yr Athro Smith CBE yw Athro Ymchwil Emeritws Raymond Williams yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, a hanesydd ac awdur ar gelf a diwylliant Cymru; Mae panel beirniadu eleni hefyd yn cynnwys: y bardd a'r ysgolhaig, yr Athro Kurt Heinzelman; Alison Hindell, Pennaeth Drama Sain y BBC; y nofelydd a'r Athro Sarah Moss, a'r awdur Prajwal Parajuly.
Mae'r wobr yn cwmpasu gwaith sydd wedi'i gyhoeddi rhwng 1 Ionawr 2016 a 31 Rhagfyr 2016.
EIN HAWDURON
Ganwyd Anuk Arudpragasm yn 1988, yn Colombo, Sri Lanka. Ar ôl astudio athroniaeth ym Mhrifysgol Stanford, mae'n parhau â'i waith ymchwil hyd at PhD ym Mhrifysgol Colombia.The Story of a Brief Marriage yw'r nofel gyntaf gan yr awdur ifanc hwn, sy'n ysgrifennu'n Saesneg a Thamil. Mae'n byw yn Ninas Efrog Newydd ar hyn o bryd.
Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, astudiodd Alys Conran Lenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caeredin, yr Universitat Autonoma yn Barcelona a Phrifysgol Manceinion, cyn cael swydd fel darlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Rhoddwyd ei gwaith ffuglen fer yn flaenorol yn Gwobr Stori Fer Bryste a Gwobr Ffuglen Manceinion. Mae'n gweithio ar ei hail nofel ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn cyhoeddi barddoniaeth, gwaith creadigol nad yw'n ffuglen, traethodau creadigol a chyfieithiadau llenyddol. Pigeon hefyd yw'r llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi mewn Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd.
Mae Luke Kennard wedi cyhoeddi pum casgliad o farddoniaeth. Enillodd Wobr Eric Gregory yn 2005 am ei gasgliad, The Solex Brothers, a chyrhaeddodd The Harbour Beyond the Movie y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward ar gyfer y Casgliad Gorau yn 2007. Cyhoeddwyd ei nofel fer, Holophin gan Penned in the Margins yn 2012 cyhoeddwyd ei nofel gyntaf The Transition gan Fourth Estate yn Ionawr 2017. Ym 2014 dewiswyd Luke gan y Poetry Book Society fel un o feirdd y Genhedlaeth Nesaf, ac ef oedd yn Fardd Llawryfol Canal 2016 i'r Poetry Society. Mae'n byw yn Bournville ac yn darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Birmingham.
Ganwyd Fiona McFarlane yn 1978 yn Sydney, Australia, ac mae ganddi PhD o Brifysgol Caergrawnt a MFA o Brifysgol Texas yn Austin, lle'r oedd yn Gymrawd Michener. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn The New Yorker, Zoetrope: All-Story, The Missouri Review, a The Best Australian Stories, ac mae hi wedi derbyn cymrodoriaethau gan y Fine Arts Work Center yn Provincetown, Academi Phillips Exeter, a'r Australian Council for the Arts. Ei nofel gyntaf, The Night Guest, oedd enillydd y Wobr Lenyddol Voss gyntaf a Gwobr Barbara Jefferis 2014, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Cyntaf 2014 y Guardian, Gwobr lenyddol y Prif Weinidog, Gwobr Stella, a Gwobr Lenyddol Miles Franklin.
Ganwyd Sarah Perry yn Essex yn 1979. Mae ganddi PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Royal Holloway, ac mae wedi bod yn Awdur preswyl yn Llyfrgell Gladstone ac Awdur Preswyl Dinas Llenyddiaeth y Byd UNESCO, Prague. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, After Me Comes the Flood, y rhestr hir ar gyfer Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian a'r Wobr Folio, ac enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn East Anglian yn 2014. Mae'n byw yn Norwich ar hyn o bryd.
Ganwyd Callan Wink ym Michigan yn 1984. Cyhoeddwyd ei waith yn The New Yorker, Men’s Journal, Granta a The Best American Short Stories. Graddiodd o Brifysgol Montana State yn Bozeman cyn dilyn MFA ym Mhrifysgol Wyoming, gan dreulio ei hafau fel tywyswr pysgota ar Afon Yellowstone. Ar hyn o bryd mae'n rhannu ei flwyddyn rhwng y ddau – bod yn dywyswr yn ystod y tymor pysgota ac ysgrifennu am weddill y flwyddyn.