1. Adroddiad Cryno Cydlynydd y Modiwl
Gwnewch ddatganiad cyffredinol am yr hyn sydd wedi mynd yn dda ar y modiwl, beth y gellid ei wella a pha newidiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol.
2. Asesu ac Adborth
Disgrifiwch yr asesu ffurfiannol a chrynodol ar gyfer y modiwl hwn. Amlinellwch hefyd a yw adborth wedi'i roi i fyfyrwyr o fewn terfynau amser cyhoeddedig
3. Dadansoddi Perfformiad y Modiwl, gan ddefnyddio'r offeryn ARQUE.
Ystyriwch yr adroddiad ARQUE ar gyfer y modiwl ac amlinellwch:
- Tueddiadau nodedig o ran sut mae myfyrwyr yn perfformio ar y modiwl.
- Cyd-destun y tueddiadau, yr hyn y maent yn ei ddangos, neu'r hyn y gallent ei olygu.
- Y newidiadau rydych chi'n bwriadu eu gwneud, os o gwbl, o ganlyniad i'ch dadansoddiad. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu nodi yn yr adran Datblygu’r Modiwl ar y dudalen nesaf
4. Dadansoddi adborth y modiwl, gan ddefnyddio EvaMetrics.
Ystyriwch Werthusiad y Modiwl ar gyfer y semester hwn, gan gynnwys:
- Meysydd arfer da.
- Meysydd i'w datblygu.
- Camau a fydd yn cael eu cymryd.
- Sut rydych wedi cysylltu ac ymgysylltu â myfyrwyr.
- Efallai yr hoffech gopïo eich sylwadau o EvaMetrics i'r adran hon. Amlinellwch pa newidiadau rydych chi'n bwriadu eu gwneud, os o gwbl, o ganlyniad i'r camau myfyrio hyn yn yr adran Datblygu’r Modiwl.
5. Datblygu’r modiwl; h.y. cofnod o newidiadau a wnaed i fodiwl.
Ystyriwch proforma presennol y modiwl ar gyfer yr adran hon, yn benodol y Deilliannau Dysgu, y Sgiliau Allweddol, cyfeiriadau at Addysgu a arweinir gan ymchwil ac sy’n seiliedig ar ymarfer, Cynwysoldeb, a Chyflogadwyedd. Os wnaethoch chi newidiadau i'r modiwl y llynedd, pa effaith gafodd y newidiadau hyn?
Nodwch unrhyw faterion a godwyd gan y cymedrolwr mewnol ac/neu'r arholwr allanol.
6. Sylwadau ychwanegol a chais am gymorth.
Gallwch ddod o hyd i'r templed Adolygu Modiwl yma.
Os yw eich modiwl wedi'i addasu ar gyfer mynediad ym mis Ionawr, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at sut mae hyn wedi mynd yn eich adroddiad cryno.