Arweinir tîm y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd gan Mr Phil Maull a Mrs Ceri Penhale, sydd gyda’i gilydd yn meddu ar gyfoeth o brofiad Sicrhau Ansawdd yn y sector Addysg Uwch.

Ymunodd Ceri â Phrifysgol Abertawe yn 2010 fel Gweinyddwr Ansawdd yn y Swyddfa Ansawdd yn y Gofrestrfa Academaidd (y Gwasanaethau Academaidd bellach). Yn y rôl hon, roedd Ceri yn ysgrifennydd i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol, roedd yn gyfrifol am broses Adolygiad Rhaglenni Blynyddol (APR) y Brifysgol ac roedd yn gyfrifol am gynnal Adolygiadau Rhaglenni Cyfnodol ar draws y Brifysgol. Yn 2015 symudodd ceri i’w rôl bresennol fel Rheolwr Rheoliadau, Ansawdd a Safonau lle mae ganddi gyfrifoldeb rheoli am dîm y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, a chyfrifoldeb am ddatblygu ac arwain prosesau a pholisïau rheoliadau academaidd, sicrhau a gwella ansawdd y Brifysgol, yn ogystal â sicrhau safonau academaidd ar gyfer portffolio academaidd y Brifysgol.

Email: c.penhale@swansea.ac.uk 

Ar hyn o bryd, mae Ceri ar secondiad gyda phrosiect Ymlaen tan 2025, a Sophie Leslie sy’n cyflawni ei dyletswyddau.

Pennaeth y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd

Pennaeth y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd

Phil Maull, Pennaeth y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd a Chyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd Cenedlaethol, MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)

 

 

Mae Phil yn arwain y tîm Gwasanaethau Ansawdd Academaidd gan sicrhau effaith a bod targedau’n cael eu cyrraedd sydd wedi’u halinio â chynllun strategol y Brifysgol. Gwneir hyn law yn llaw â hyrwyddo ymagwedd hyblyg at waith  sydd wedi’i harwain gan ymgysylltu a lles ac yn seiliedig ar adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chymorth cydfuddiannol.

Mae Phil yn goruchwylio gweithgareddau sicrhau a gwella ansawdd ar ran y Brifysgol gan gynnwys Dylunio, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni, Ymgysylltu Allanol (Arholi Allanol, Cydweithredu cenedlaethol a rhyngwladol), Rheoliadau, Polisi a Chyhoeddiadau ac Adborth gan Fyfyrwyr (casglu data, dadansoddi a gweithredu newid). Mae Phil yn aelod o Bwyllgorau a Byrddau Sicrhau Ansawdd allweddol y Brifysgol gan gynnwys:

  • Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd
  • Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd
  • Bwrdd Partneriaethau Cydweithiol
  • Bwrdd Rheoli Rhaglenni
  • Y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni
  • Bwrdd Rheoli SAILS

Dechreuodd Phil ei yrfa broffesiynol ym maes manwerthu gan ddysgu egwyddorion craidd gwasanaeth gwych a daeth a hyn i’r amgylchedd Addysg Uwch yn 2002 gan gefnogi’r gwaith o sefydlu’r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Treuliodd Phil wyth mlynedd yn yr Ysgol Feddygaeth yn sefydlu’r tîm Cymorth Addysg a gweithio ar ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol i fyfyrwyr meddygaeth i raddedigion, myfyriwr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig ar draws pob maes o gyllid myfyrwyr, derbyn myfyrwyr, amserlennu a dysgu, addysgu ac asesu, ar draws nifer o safleoedd mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd De Cymru.

Yna, symudodd Phil i’r Gofrestrfa Academaidd fel Swyddog Ansawdd a’i rôl benodol oedd gwella profiad y myfyrwyr a dylunio a chyflenwi rhaglenni a chwricwlwm gan arwain ar ddatblygu Proses Ymgysylltu Profiad y Myfyrwyr arloesol a system Datblygu a Rheoli Rhaglenni newydd. Ar ôl cyfnod o weithio yn yr Uned Cynllunio a Phrosiectau Strategol fel Rheolwr Prosiect Profiad y Myfyrwyr, penodwyd Phil yn Bennaeth y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn 2015 gan ddod ag 13 o flynyddoedd o brofiad a syniadau i’r rôl a chyfunwyd hyn ag ymagwedd flaenllaw o amgylchoedd eraill, yn bennaf, gwmnïau technoleg mawr. 

Mae Phil yn angerddol am ddylunio ac asesu cwricwlwm cynhwysol, ymgysylltu â myfyrwyr a gweithio mewn partneriaeth, ymagweddau effeithlon a hysbyswyd gan ddata ar gyfer Sicrhau Ansawdd, meddwl drwy systemau, dylunio a datblygu a sut i ymgorffori sicrhau  a gwella ansawdd yn broses fusnes graidd a galluogi ym myd Addysg Uwch.

ebost: p.g.maull@swansea.ac.uk

Rheolwr Rheoliadau, Ansawdd a Safonau

Rheolwr Rheoliadau, Ansawdd a Safonau

Sophie Leslie, Rheolwr Rheoliadau, Ansawdd a Safonau

 

Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch yw Sophie. Mae ei gwaith yn archwilio profiad y myfyrwyr a gwella ansawdd yn y brifysgol, ymgysylltu â myfyrwyr a phartneriaethau â myfyrwyr.  Mae ymchwil flaenorol wedi canolbwyntio ar fyfyrwyr fel partneriaid, cymunedau dysgu ar-lein a dysgu gan gyfoedion, a datblygu rhinweddau staff a’u pwysigrwydd o ran profiad y myfyrwyr. Mae Sophie’n goruchwylio’r sianelau adborth gan fyfyrwyr canolog gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Arolygon Mawr Abertawe, Adborth ar Fodiwlau ac Unitu.

Ar hyn o bryd, mae Sophie ar secondiad i'r rôl Rheolwr Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, ac mae hi'n gyfrifol am ddatblygiad, gweithrediad a rheolaeth weithredol barhaus pob agwedd ar sicrhau a gwella ansawdd rheoliadau, ac am sicrhau bod disgwyliadau a safonau allanol priodol yn cael eu bodloni ar draws y Brifysgol.

ebost: sophie.leslie@swansea.ac.uk