Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Partneriaethau Cydweithredol yn darparu’r fframwaith, yr egwyddorion a’r prosesau ar gyfer nodi, datblygu, cymeradwyo, rheoli ac adolygu’r holl bartneriaethau cydweithredol a rhaglenni astudio cysylltiedig (gan gynnwys rhai israddedig, ôl-raddedig a addysgir, ymchwil ôl-raddedig), a dylid ei ddarllen ar y cyd ag adrannau perthnasol o’r Cod Ymarfer ar gyfer Dylunio, Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni.
Mae rhestr o Bartneriaid Cydweithredol presennol Prifysgol Abertawe ar gael yma. Gweler hefyd yr Egwyddorion Partneriaeth Cydweithio.
Mae'r Cod Ymarfer hwn yn ymdrechu i fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n seiliedig ar ddisgwyliadau a dangosyddion Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU (QAA).
Mae’r agweddau allweddol sydd wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer fel a ganlyn: