Pam dewisais i gofio'r brifysgol yn fy ewyllys
Mae Joan Borley, myfyrwraig Hanes ac Astudiaethau Americanaidd (Dosbarth 1977) yn dweud wrthym am ei chyfnod yn y Brifysgol a pham ei bod wedi gwneud y penderfyniad ysbrydoledig i gofio am y Brifysgol yn ei Ewyllys.
Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich amser yn Abertawe?
Wrth edrych yn ôl, gallaf ddweud bod fy mhrofiad o fod yng Ngholeg Prifysgol Abertawe am dair blynedd wedi cael effaith aruthrol ar fy nyfodol. Yn y bôn, gwnaeth ennill gradd newid fy mywyd.
A finnau'n 27 oed ar y pryd, roeddwn i'n fyfyriwr aeddfed. Roeddwn i wedi bod yn gweithio fel ysgrifenyddes yn y Deyrnas Unedig ac wedyn yn yr Unol Daleithiau a hefyd yn Awstralia, cyn penderfynu mod i eisiau gyrfa a fyddai'n rhoi cyfle i mi fod yn annibynnol yn ariannol.
Roedd rhaid i mi basio arholiadau Safon Uwch ac roeddwn i'n astudio ar fy mhen fy hun mwy neu lai, yn dilyn y cwricwlwm ar gyfer hanes a daearyddiaeth ym 1973. Ond heb grant llawn gan fy awdurdod addysg, fyddwn ni ddim wedi gallu mynd i Goleg Prifysgol Abertawe. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael hwnnw, a dwi bellach yn hapus i gefnogi myfyrwyr Abertawe drwy Gronfa Galedi'r Brifysgol.
Roedd llety o safon i fyfyrwyr yn brin yn y 1970au, yn enwedig yng nghanol dinasoedd. Roeddwn i wedi prynu hen gar ac roeddwn i'n cofio gwyliau ar benrhyn Gŵyr yn fy arddegau. Felly, roedd Abertawe'n apelio, a ches i le yn Hendrefoelan am y flwyddyn gyntaf. Roedd y car yn fy ngalluogi i fwynhau crwydro penrhyn Gŵyr am y ddwy flynedd nesaf.
Ces i gynnig lle ar y rhaglen Cydanrhydedd, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Americanaidd. Roedd y flwyddyn gyntaf yn cynnwys opsiwn i astudio trydydd pwnc. Dewisais i Wleidyddiaeth a oedd yn ddiddorol ac yn berthnasol, fel y sylweddolais i sawl blwyddyn wedi hynny. Gwaetha'r modd, doeddwn i ddim yn mwynhau'r cyrsiau daearyddiaeth yn y flwyddyn gyntaf, yn bennaf am fod daearyddiaeth ddynol o fwy o ddiddordeb i mi na'r cwricwlwm daearyddiaeth ffisegol ar y pryd.
Yn y 1970au, roedd Abertawe'n un o golegau Prifysgol Cymru felly, roedd hi'n llawer llai na'r brifysgol bresennol. Yn ffodus, roedd hyblygrwydd rhwng cyfadrannau, ac roeddwn i'n gallu newid i Hanes ac Astudiaethau Americanaidd wrth ddechrau'r rhaglen cydanrhydedd yn yr ail flwyddyn.
Roedd yr hyblygrwydd hwn yn beth gwych. Roeddwn i'n adnabod nifer o fyfyrwyr a oedd yn anfodlon ar eu dewisiadau pwnc gwreiddiol, ond cawsant eu hachub gan yr opsiynau eraill a oedd ar gael ar ddiwedd Rhan Un.
Wrth gwrs, roedd y cyfuniad o bynciau'r celfyddydau'n golygu llawer o ysgrifennu traethodau. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd y byddai'r profiad hwnnw mor ddefnyddiol yn fy mywyd gwaith. Mae rhan helaeth o waith y Gwasanaeth Sifil yn cynnwys cyflwyno dadleuon argyhoeddiadol, dadansoddi sefyllfaoedd, ac mae angen cadernid deallusol wrth roi argymhellion i swyddogion a gweinidogion.
Beth yw eich atgof gorau o'ch amser yn Abertawe?
Mae gen i lawer o atgofion melys - mae un ohonyn nhw'n drawiadol! Aeth grŵp ohonon ni ar ymweliad wedi'i drefnu gan y Brifysgol â Thŷ'r Cyffredin ar yr union fore pan ddiflannodd John Stonehouse AS. Roedd ef i fod yn un o'r aelodau seneddol i'n tywys o gwmpas! Diolch byth, cymerodd aelod seneddol arall ei le. Y tu mewn i Dŷ'r Cyffredin, roedden ni'n aros am lifft. Pan gyrhaeddodd y lifft, pwy ddaeth allan ond y Prif Weinidog, Mrs Thatcher, a Keith Joseph AS. Dyma ni'r myfyrwyr yn ymrannu fel y Môr Coch!
Roedd ymuno â'r Gymdeithas Hanes yn y flwyddyn gyntaf yn benderfyniad da. Roedd y digwyddiadau a'r partis yn llawer o hwyl. Hefyd roedd ambell ddarlith gan haneswyr gwadd ac roedden ni wedi darllen gwerslyfrau rhai ohonyn nhw.
Ond yr atgof fydd yn aros gen i am oes yw gwyliau yn yr Eidal gydag un o'm cyn-fyfyrwyr. Trefnwyd y daith gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn ystod gwyliau'r ail flwyddyn. Roeddwn i ar fin dechrau cwrs y drydedd flwyddyn gyda Dr Prys Morgan o'r enw ‘The Cultural revolution - Renaissance to Baroque’. Roedd y daith i Rufain, Florence, Siena, Assisi a Fenis yn agoriad llygad: celf, eglwysi, clochdyrau, cerfluniau, pensaernïaeth - heb sôn am y bwyd bendigedig! Gwnaeth trafodaethau Dr Morgan yn ystod y flwyddyn olaf honno, atgyfnerthu'r hanes celf a phensaernïaeth; i'r fath raddau, gwnaeth aros yn fy nghof yn ystod fy nheithiau helaeth dros Ewrop a De America yn y blynyddoedd wedi hynny.
Allech chi ddweud wrthym ni am eich gyrfa ers i chi raddio?
Yn ystod y gwyliau roeddwn i wedi bod yn gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr a ches i fy annog i feddwl am yrfa yn y gyfraith. Yn hydref 1977, gwnes i gofrestru yng Ngholeg y Gyfraith i sefyll Rhan 1 o arholiadau'r cyfreithwyr proffesiynol. Roedd y cwrs yn ddefnyddiol o ran dysgu am sawl agwedd ar gyfraith Lloegr, ond sylweddolais i'n gyflym nad oeddwn i am ddilyn y llwybr gyrfa hwnnw.
Fodd bynnag, dwi'n meddwl bod y cymhwyster cyfreithiol wedi helpu pan gyflwynais i gais ym 1978 am swydd gyda'r Comisiwn Cyfle Cyfartal a oedd newydd gael ei sefydlu ym Manceinion. Roedd mynd i'r afael â Chytuniad Rhufain (1957), Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 a'r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn gromlin ddysgu anferth a oedd yr un mor ddiddorol.
Yn fy amser rhydd rhwng 1982 a 1983, astudiais i am radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe drwy wneud maes gwaith mewn ysgolion uwchradd, yn ystyried effaith gofynion addysg y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw. Doedd dim llawer wedi newid yn y dyddiau cynnar hynny, ond gwnaeth gynnig cyfleoedd i ferched a bechgyn astudio unrhyw bwnc heb gael eu gwahardd ar sail rhyw.
Mae'r Gwasanaeth Sifil yn cynnig cyfleoedd i bobl symud rhwng adrannau ac, ar ôl 11 o flynyddoedd gyda'r Comisiwn Cyfartal, penderfynais i newid gyrfa gan ymuno â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, fel arolygydd yn Lerpwl i ddechrau. Yna ym 1995, symudais i i bencadlys yr Awdurdod yn Llundain.
Roeddwn i'n mwynhau gweithio ar bolisi adrannol, a gweithio ar yr hyn oedd yn cael ei adnabod ar y pryd fel prosiect 'Ehangu Ewrop', pan oedd gwledydd yn ymgeisio i ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i'n gweithio'n helaeth yn Ewrop, h.y. Hwngari, y Weriniaeth Tsiec, Malta a Chyprus. Yn 2022, symudais i i'r adran rydyn ni'n ei hadnabod bellach fel y Weinidogaeth Cyfiawnder, gan barhau i wneud rhagor o waith rhyngwladol tan 2009.
Pam dewisoch chi gofio Prifysgol Abertawe yn eich ewyllys?
Dwi'n hoffi bod yn ddyngarol yn fy ewyllys, a lle dwi'n gallu. Mae cynifer o broblemau yn rhy fawr i lywodraethau eu datrys ar eu pennau eu hunain. Fel mae pobl yn ei ddweud, "rydym i gyd yn yr un sefyllfa" ac mae'n rhaid i ni wneud ein rhan, yn enwedig yn wyneb effeithiau negyddol gweithgareddau dynol yn fyd-eang.
Pan oeddwn i'n datblygu fy ngyrfa, roedd y Brifysgol yn troi'n endid enfawr a thrawiadol. Yn ystod blynyddoedd Covid, darllenais i fod y Brifysgol yn rhan o waith i ailgylchu masgiau wyneb. Gwnaeth hyn argraff arnaf, felly dwi'n clustnodi fy rhodd yn fy ewyllys i'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg er mwyn cyfrannu at eu gwaith ardderchog ar droi plastigion yn deunyddiau mae modd eu hailddefnyddio.