Truc Thanh Le
- Gwlad:
- Fietnam
- Cwrs:
- MSc Rheoli (Busnes Cynaliadwy)
Pam dewisaist ti astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae astudio yng Nghymru'n cynnig addysg ryngwladol wych am bris fforddiadwy. Gelli di fwynhau byw'n fforddiadwy, wedi dy amgylchynu gan fyd natur ac awyrgylch cymunedol a chroesawgar yn ninas Abertawe. Hefyd, mae yna olygfeydd trawiadol gan gynnwys bae hardd, traethau, cestyll a mynyddoedd gerllaw, heb sôn am y ffaith bod Prifysgol Abertawe yn un o'r prifysgolion ymchwil uchaf ei pharch yng Nghymru. Dyma'r cyfuniad perffaith o fywyd academaidd ac antur!
Elli di ddweud wrthym am dy gwrs a'r hyn rwyt ti'n ei fwynhau fwyaf?
Yn fy nghwrs, nid damcaniaeth yn unig sy'n bwysig. Rydyn ni’n cael trafodaethau, gweithdai a chyflwyniadau lle rydyn ni’n dysgu sut i gydweithredu, rhannu syniadau a dadlau mewn amgylchedd proffesiynol. Hefyd, rwyf wedi ennill sgiliau ymarferol megis cynllunio strategol, meddwl yn feirniadol a sut i fireinio fy CV i ddenu sylw cyflogwyr. Rwy'n teimlo'n fwy hyderus wrth siarad yn gyhoeddus a chyflwyno fy hun, sy'n rhoi hwb i'm proffil ar gyfer cyfleoedd am swyddi yn y dyfodol. Mae Prifysgol Abertawe'n canolbwyntio'n fawr ar ein paratoi ni at yrfaoedd llwyddiannus ar ôl i ni raddio.
Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?
Mae'n brifysgol unigryw ar lan y môr. Mae gan yr ardal astudio annibynnol yn Llyfrgell y Bae a rhai o'r ystafelloedd dosbarth olygfa drawiadol. Beth bynnag sy’n apelio, darllen llyfr, rhedeg, mynd am dro neu sgwrsio, y traeth yw fy hoff le i fynd.
Mae'n lle cyfeillgar a fforddiadwy i fyw ynddo. Mae’r bobl leol bob amser yn barod am sgwrs gyfeillgar. Byddi di’n cael ymateb i'th gwestiynau. Mae staff Prifysgol Abertawe'n gymwynasgar ac yn broffesiynol iawn.
Gwneud ffrindiau o bob cwr o’r byd. Mae'n ehangu dy orwelion a'th feddylfryd ac mae'n estyn dy ffiniau. Mae'n wych dysgu siarad ag acen Prydeinig, ond byddi di’n gallu deall pob math o acenion Saesneg gan gynnwys UDA, Canada, Awstralia, yr Almaen, yr Eidal, Asia, India, Affrica etc. Mae hi mor ddiddorol gallu dweud "Shwmae, sut wyt ti?" mewn ieithoedd gwahanol rwyt ti wedi'u dysgu gan dy holl ffrindiau rhyngwladol!
Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Yn bendant! Heb os nac oni bai, mae Abertawe'n ddinas arbennig i ymgartrefu ynddi. Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig croeso cynnes i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, gan gynnig cymuned fywiog i ffynnu ynddi. Dychmyga fyd bach clyd lle mae'n hawdd gwneud ffrindiau ac rwyt ti’n cael dy annog i archwilio dy ddiddordebau. P’un a wyt ti’n frwdfrydig am wyddoniaeth a labordai blaengar neu'n rhywun sy'n ymhyfrydu mewn cyfleusterau a chlybiau chwaraeon, mae yna rywbeth i bawb.