Sophie Mahoney
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- BSc Rheoli Busnes
Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?
- Y traethau, does gen i ddim amheuaeth y byddai pawb yn dweud bod traethau Abertawe yn un o'r rhannau gorau o'r ddinas!
- Y gymuned – yn enwedig ar y campws, gallaf warantu y byddwch yn gweld rhywun rydych chi'n ei adnabod wrth gerdded o ddarlith i ddarlith, a bydd yn stopio ac yn sgwrsio. Mae pawb yn ymddangos
mor sgyrsiol yn y brifysgol!
- Bwyd! Mae cymaint o fusnesau annibynnol anhygoel sydd â'r bwyd gorau. Thai, Japaneaidd, Eidalaidd. Twrcaidd. Mae'n debygol y bydd gan Abertawe bopeth y gallech chi ofyn amdano!
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Astudiais fy ngradd israddedig mewn Rheoli Busnes yma. Roeddwn i'n gwybod y byddai'r darlithwyr yn gallu dysgu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i mi y byddwn yn mynd â nhw gyda mi yn y pen
draw i'r byd gwaith. Er efallai nad yw'r darlithwyr sy'n addysgu'r radd Meistr yr un fath â'r rhai a'm dysgodd i ar lefel israddedig, roeddwn i'n gwybod bod ansawdd yr addysgu yn gyson drwy'r
Ysgol Reolaeth. Hefyd, y timau cyflogadwyedd/gyrfaoedd yn y brifysgol yw'r bobl orau i fynd atynt pan fyddwch yn cyflwyno cais am leoliadau gwaith neu gynlluniau i raddedigion; maen nhw'n rhagori
ar ddisgwyliadau!
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Amrywiaeth y modiwlau. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gul eu meddyliau o ran Marchnata, maent yn credu mai hysbysebu yn unig ydyw ond mae'n gymaint mwy na hynny ac mae'r cwrs Marchnata Strategol wedi
tynnu sylw at hynny; rydym yn ymdrin â phopeth fel ymchwil marchnata, dulliau ymchwil, segmentu, cyfathrebu marchnata a marchnata digidol.
Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Byddwn wrth fy modd yn gweithio i sefydliad dielw, gan godi ymwybyddiaeth ac yn y pen draw helpu'r rhai mewn angen.
A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Yn bendant! Mae Prifysgol Abertawe wedi fy helpu i greu cynifer o berthnasoedd a ffrindiau gwych gydol oes. Nid yn unig hynny ond yn academaidd ac yn broffesiynol rydw i wedi gwella mewn cynifer
o ffyrdd, rwy'n fwy hyderus nag yr oeddwn i yn 2018 cyn dod i'r brifysgol ac yn bendant yn fwy sicr o'r llwybr gyrfa a ddewisais.
Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw! Mae'r Gymdeithas Menywod mewn Busnes a'r Gymdeithas Fusnes – mae'r ddwy wedi helpu i greu a chryfhau cysylltiadau rhwydweithio. Mae pwyllgorau'r ddwy gymdeithas yn cynnal digwyddiadau mor
wych y gallwch eu hychwanegu at eich LinkedIn neu'ch CV!
Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Rydw i wedi cael sawl cyfle am waith rhan-amser; Roeddwn i'n gweithio mewn tafarn leol am ddwy flynedd yn y bar ac fel gweinyddes. Roedd yn gyfle swydd hollol hyblyg ac roeddwn i'n gallu cwblhau
sifftiau ochr yn ochr â'm hastudiaethau yn hawdd. Rydw i hefyd wedi cael dwy interniaeth haf dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan weithio i wahanol adrannau yn y brifysgol – y Tîm Menter a'r Tîm
Cyflogadwyedd yn y Coleg Peirianneg. Gwnaeth y ddwy fy helpu i wella fy sgiliau marchnata ac yn y pen draw rwydweithio gyda phobl o'r un meddylfryd. Byddwn yn bendant yn argymell edrych am waith
rhan-amser neu interniaethau dros yr haf.