Rochelle Embling
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- PhD Seicoleg
Ym mha gyfadran ydych chi'n gwneud eich gwaith ymchwil?
Ar hyn o bryd, rwy'n ymchwilydd yn Grŵp Ymchwil Maeth, Archwaeth a Gwybyddiaeth Abertawe (SNAC) yn Ysgol Seicoleg y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
Sut daethoch chi i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Des i i Brifysgol Abertawe yn y lle cyntaf fel myfyriwr israddedig ar y cwrs BSc mewn Seicoleg. Yn ystod ail flwyddyn fy astudiaethau, gwnes i gwblhau interniaeth haf wedi'i hariannu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain gyda Dr Laura Wilkinson. Rhoddodd y swydd hon brofiad i mi o weithgareddau beunyddiol ymchwilydd, a ches i fy annog i gyflwyno cais am ysgoloriaeth ymchwil 1+3 wedi'i hariannu gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC. Yn ddiweddar, gwnes i gwblhau a chyflwyno fy nhraethawd ymchwil PhD, cyn dechrau fy swydd ôl-ddoethurol bresennol.
Beth yw eich pwnc ymchwil?
Canolbwyntiodd fy ymchwil PhD ar ddeall sut gall ffactorau mewn pryd o fwyd ddylanwadu ar gymeriant bwyd a rheoli pwysau'r corff, megis pan fydd amrywiaeth o fwydydd ar gael i ni neu pan fyddwn yn cael dognau mwy o fwyd.
Mae fy ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar sut gallwn ni gefnogi defnyddwyr i roi cynnig ar brynu cynhyrchion bwyd sy'n cynnwys cynwysyddion ‘gwahanol’ fel rhan o ddeiet iach a chynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys gwymon ac algâu, sy'n cynnwys llawer o fitaminau a mwynau, ac mae modd eu cynnwys mewn mwy na swshi yn unig!
Beth a wnaeth ysgogi eich diddordeb yn y maes hwn?
Mae ymddygiad bwyta'n faes ymchwil helaeth. Dyma bwnc sy'n bwysig i iechyd a lles, ac rydyn ni wedi bod yn ei drafod yn fwy mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae deall sut gallwn helpu i gefnogi pobl i gael deiet iach a chynaliadwy yn parhau i ysgogi fy niddordeb yn yr ymchwil hon.
Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?
Y nod yn y pen draw yw y bydd fy ymchwil yn cael effaith ar y byd go iawn, ac yn helpu i gyfrannu at newid ein system fwyd mewn modd cadarnhaol.
Beth yw'r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?
Un o'r pethau gorau am fod yn Abertawe yw'r bobl. Mae'r gefnogaeth gan fy ngoruchwylwyr, fy nghyd-fyfyrwyr PhD, a'r tîm ymchwil ôl-raddedig ehangach wedi gwneud i’r daith tuag at gwblhau fy PhD deimlo'n llai unig, gan fod ymdeimlad go iawn o gymuned.
Beth yw eich cynlluniau yn y dyfodol?
Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau ymchwilio ymhellach, ac archwilio cwestiynau mawr wrth i mi weithio gyda chydweithredwyr newydd – yn y byd academaidd a'r tu allan iddo.