Rhiannon Gooding
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- MEng Peirianneg Fecanyddol
Roeddwn i bob amser wedi ystyried Abertawe fel dewis prifysgol am fy mod i mor hoff o'r ardal, ond gwnaeth ymweliad â Champws y Bae yn 2016 gadarnhau hyn. Wrth i mi ymweld â'r campws am Ddiwrnod Agored, gwnaeth y dechnoleg yn y Coleg Peirianneg greu argraff fawr arna i, ac roeddwn i hefyd wir yn mwynhau'r ymdeimlad newydd a ffres oedd gan y campws a oedd newydd agor y flwyddyn gynt.
Ydych chi'n cofio beth daniodd eich diddordeb mewn peirianneg fecanyddol i ddechrau?
Penderfynais i astudio Peirianneg oherwydd fy mrwdfrydedd am ddatrys problemau ac awydd i ddeall 'sut' a 'pham' roedd pethau'n gweithio. Roeddwn i'n mwynhau pynciau fel Mathemateg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Dylunio yn yr ysgol, felly sylweddolais i fod peirianneg yn cynnwys yr holl agweddau ar y pynciau hynny roeddwn i'n ymddiddori fwyaf ynddyn nhw. Dewisais i astudio Peirianneg Fecanyddol am ei bod hi'n ymddangos mai dyma'r mwyaf eang o'r pynciau peirianneg oedd yn cael eu cynnig yn Abertawe, felly dyma'r opsiwn a oedd yn apelio fwyaf ataf achos doedd gen i ddim diddordeb mewn maes peirianneg penodol ar y pryd.
Wrth edrych yn ôl, beth oedd rhai o'ch hoff ddosbarthiadau a pham?
Roeddwn i'n mwynhau’r fodiwl Optimeiddio Gweithgynhyrchu yn y 3ydd flwyddyn. Dysgon ni lawer o dechnegau 'Lean Six Sigma' sy'n cael eu defnyddio gan ddiwydiannau gweithgynhyrchu ledled y byd, ac yn cael eu defnyddio gan Renishaw lle dwi'n gweithio ar hyn o bryd. Y modiwl hwn, mwy na thebyg, oedd y mwyaf defnyddiol i mi o ran y swydd sydd gen i nawr.
'Gweithgynhyrchu Digidol’ oedd modiwl arall roeddwn i'n ei fwynhau yn yr ail flwyddyn. Roedd rhaid i ni weithio mewn grwpiau i adeiladu argraffydd 3D Ultimaker ac yna defnyddio'r peiriant i argraffu cydran 3D roedden ni wedi'i dylunio ein hunain. Cymerodd y gwaith lawer o amser ond roedd e'n llawer o hwyl, yn enwedig achos bod rhaid i ni ddefnyddio llawer o sgiliau datrys problemau i sicrhau bod ein peiriant yn gweithio'n iawn, neu fydden ni ddim wedi gallu cwblhau ail hanner y modiwl. Roedd angen llawer o waith tîm a dyfalbarhad, sy'n wir yn aml am fy rôl o ddydd i ddydd gyda Renishaw.
Fyddech chi'n dweud bod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe wedi eich paratoi ar gyfer y byd proffesiynol? Os felly, sut?
Roedd nifer o fodiwlau drwy gydol y radd â'r nod o baratoi myfyrwyr ar gyfer y byd proffesiynol, er nad oes dim byd yn gallu dy baratoi'n llawn nes dy fod wedi ei brofi dy hun. Un peth sy'n bwysig iawn i Abertawe, yw annog myfyrwyr i gwblhau lleoliadau gwaith diwydiannol/dros yr haf er mwyn cael rhywfaint o brofiad cyn graddio. Dwi'n teimlo bod hyn yn arbennig, am ei fod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio agweddau gwahanol ar y diwydiant peirianneg cyn ymrwymo i swydd amser llawn, ond mae hefyd yn helpu myfyrwyr o safbwynt academaidd.
Mae Renishaw yn gwmni peirianneg o fri. Allech chi ddweud wrthym am y math o brosiectau neu dechnolegau rydych chi'n gweithio arnyn nhw?
Dwi newydd gwblhau cynllun gweithgynhyrchu mecanyddol dwy flynedd i raddedigion. Yn ystod y cynllun hwn, dwi wedi gweithio fel Peiriannydd Gwella Prosesau, Peiriannydd Cynhyrchu, Arweinydd Adran (Goruchwyliwr) a Pheiriannydd Prosiect. Dwi'n gweithio ar safle gweithgynhyrchu Renishaw ym Miskin a'r cynhyrchion dwi wedi cael y profiad mwyaf ohonyn nhw yw Incremental ac Absolute Encoders. Mae amgodiwr yn synhwyrydd electro-fecanyddol sy'n synhwyro mesuriad ffisegol ac yn ei droi'n signal 'wedi'i amgodio' sydd wedyn yn gallu cael ei ddehongli gan system rheoli symudedd neu PC, gan fesur mor fanwl gywir ag 1 nanofetr!
Mae'r daith o fod yn fyfyriwr i fod yn beiriannydd proffesiynol yn llawn profiadau dysgu. Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr presennol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe sy'n awyddus i gael effaith sylweddol yn eu gyrfaoedd?
Un darn o gyngor ges i gan gydweithiwr yn ddiweddar oedd na ddylech chi byth ofni gwneud camgymeriad; a bod rhywun sydd heb wneud camgymeriad yn ei fywyd heb ddysgu dim. Yn y bôn, gall byd peirianneg proffesiynol fod yn wahanol iawn i'r math o beirianneg dysgon ni o'n gwerslyfrau yn y brifysgol. Drwy addasu i'r newidiadau hynny, mae'n anochel byddwch chi'n gwneud camgymeriadau, ond y peth pwysicaf yw eich bod yn dysgu o'r camgymeriadau hynny a rhoi'r wybodaeth honno ar waith y tro nesaf.