Rachel Johnson
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- MEng Peirianneg Fecanyddol
Roeddwn i'n byw yn Windsor gyda fy rhieni cyn symud i Abertawe. Pan ddes i ar ymweliad am ddiwrnod i ymgeiswyr, roedd hi'n sesiwn ddiddorol iawn, ond roedd hefyd yn un o ddiwrnodau mwyaf braf y flwyddyn – roedd y dref yn brysur, roedd y traeth yn hyfryd. Roedd Abertawe wir yn teimlo fel rhywle y gallwn i symud iddo a theimlo'n gartrefol yn gyflym iawn.
Wyt ti'n cofio beth daniodd dy ddiddordeb mewn peirianneg fecanyddol i ddechrau?
Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn mathemateg a ffiseg ac roeddwn i'n chwilio am ffordd ymarferol o roi'r sgiliau hynny ar waith, a fyddai hefyd yn datblygu llwybr i yrfa lwyddiannus. Roedd peirianneg yn dod i'm meddwl dro ar ôl tro, ac roedd peirianneg fecanyddol yn benodol yn cyd-fynd â fy ffordd o feddwl - roedd datrys problemau'n bwysig i mi.
Wrth edrych yn ôl, beth oedd rhai o dy hoff ddosbarthiadau a pham?
Roeddwn i'n dwlu ar unrhyw ddosbarth ymarferol a'r un sydd wedi aros yn y cof am flynyddoedd yw'r prosiect gleider. Roedd grŵp ohonon ni'n gyfrifol am ddylunio, adeiladu a hedfan gleider yn ddiogel i gludo wy heb ei dorri. Roedd rhaid i ni feddwl am ddeunyddiau, y broses weithgynhyrchu a chynllun busnes hyd yn oed. Roedd hynny’n cyfuno cynifer o'r agweddau ar beirianneg sy'n berthnasol ar ôl i chi raddio.
Mae'n rhaid bod y Blwyddyn mewn Diwydiant wedi bod yn brofiad cyffrous. Gelli di rannu rhai o'r gwersi allweddol o'r cyfnod hwnnw?
Drwy'r Flwyddyn mewn Diwydiant, ces i gyfle i ddysgu nifer o sgiliau hynod bwysig, rhai mae'n anodd eu meithrin mewn ystafelloedd dosbarth. Roedd rhaid i mi gyflawni canlyniadau, gan gadw at amserlenni cynhyrchu tynn iawn a chydbwyso tasgau pob dydd â phrosiectau tymor hir. Wrth weld y ffordd mae llawer o dimau gwahanol yn cydweithio i gyrraedd yr un nod ces i gipolwg pwysig ar waith tîm yn y diwydiant. Dysgais i wersi gwerthfawr iawn o fy interniaeth, ond yn fwy penodol, o'r cwmni GE Aerospace. Gwnaeth y profiad cyfan fy ysbrydoli i barhau i weithio i'r cwmni, felly cyflwynais i gais llwyddiannus am y Cynllun Graddedigion a dwi wedi aros yn y sector hedfan ers hynny!
Pa gyfleoedd dysgu drwy brofiad gwnaethoch chi achub arnynt fel myfyriwr?
Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael fy newis i gymryd rhan yn alldaith Prifysgol Abertawe i Zambia - rhaglen allgymorth lle cawson ni ein herio i adeiladu maes chwarae i gartref plant amddifad, a helpu ysbyty pryd bynnag roedd angen trwsio rhywbeth. Gwnaethon ni archwilio heriau peirianneg o'r byd go iawn, gan ddefnyddio ein gwybodaeth mewn tasgau penodol a helpu cymunedau llai ffodus nag un ni. Hefyd, yn ystod fy mlynyddoedd cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe, cymerais i ran yn y prosiect Formula Student. Roedd y profiad yn anhygoel. Ces i gyfle i ddylunio cydrannau a fyddai'n cael eu gweithgynhyrchu yn y pen draw a'u cynnwys mewn car o safon i gystadlu mewn rasys.
Fyddet ti'n dweud bod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe wedi dy baratoi ar gyfer y byd proffesiynol?
Yn bendant! Yn benodol, mae gan Brifysgol Abertawe Academi Cyflogadwyedd ardderchog - sy'n gefnogol iawn ac yn wybodus am beth mae diwydiannau'n chwilio amdano mewn interniaid/graddedigion. Cymerais i ran mewn ffug ganolfan asesu a drefnwyd gan y tîm cyflogadwyedd, ac mae dyled fawr arnaf iddynt am fy mharatoi ar gyfer cyfweliadau llwyddiannus a rolau swydd hefyd.