Kris Ions
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- PhD Peirianneg Sifil
Pa gyfadran rydych chi’n astudio ynddi?
Rwy’n astudio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yng Nghanolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol.
Beth oedd eich rhesymau dros ddod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Des i i gwblhau fy ngradd BEng mewn Peirianneg Sifil yn wreiddiol. Yn dilyn fy ngradd, ymwelais i â Zambia fel rhan o fenter rhwng Prifysgol Abertawe ac Ysgol Siavonga, sef prosiect a oedd yn seiliedig ar Beirianneg Gynaliadwy, ac o ganlyniad i hynny, bu newid yn fy nodau gyrfaol. Roeddwn i’n ffodus i gael cyllid drwy KESS II i astudio am MRes mewn Peirianneg Arfordirol ar ôl cwblhau fy ngradd BEng. Yn ystod fy ngradd MRes, cyhoeddwyd fy mhapur cyntaf, gan agor llwybr gyrfa newydd sbon a arweiniodd at astudio PhD drwy gyllid EPSRC.
Beth yw eich maes ymchwil?
Mae fy maes ymchwil mewn Peirianneg Arfordirol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau naturiol megis morfeydd heli, morwellt a gwernydd mangrof i ddiogelu rhag erydu arfordirol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddeinameg gwaddod drwy lystyfiant arfordirol a dyfrol.
Beth a ysgogodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Mae’r problemau y mae’r byd yn eu hwynebu heddiw, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, bellach yn amlwg iawn a byddant yn parhau i waethygu. Er i mi fwynhau astudio pob agwedd ar Beirianneg Sifil, roeddwn i’n awyddus iawn i ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau roeddwn i wedi’u meithrin er mwyn cyfrannu at ddatrys y problemau. Drwy fyw yn Abertawe, roeddwn i’n treulio amser helaeth yn y môr, yn ogystal ag arsylwi arno, felly roedd yn naturiol fy mod i am ddarganfod mwy am ei ffiseg. O ganlyniad i hyn, ochr yn ochr â’r awch i gyfrannu at fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, roedd yn benderfyniad hawdd dilyn ymchwil ym maes Peirianneg Arfordirol ac roedd yr agwedd natur yn ddigon i gadarnhau hynny. Rwyf bellach yn cael cyfle cyffrous i ymchwilio i bwnc sydd o ddiddordeb mawr i mi.
Beth rydych chi’n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rwy’n gobeithio datblygu fel ymchwilydd ac unigolyn wrth i mi astudio. Mae llawer o bethau eraill i’w dysgu a’u darganfod. Os gall fy nghyfraniad gael rhyw effaith barhaol neu agor llwybrau newydd ar gyfer ymchwil, yna bydda i’n hynod falch.
Beth yw’r pethau gorau am gynnal eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?
Bod yn beiriannydd arfordirol yn astudio yn Abertawe yw’r sefyllfa ddelfrydol i mi. Mae’r arfordiroedd hardd ar bob ochr yn fy ysbrydoli’n fawr. Er bod y ddinas yn fach, mae ganddi lawer o nodweddion annwyl y mae’n anodd peidio â’u hoffi. Mae’n ymddangos bod pawb sy’n penderfynu dod i Abertawe o’r unfryd ac mae hynny’n creu awyrgylch gwych. Mae gan Brifysgol Abertawe ei hun gyfleusterau anhygoel, ac mae’r tanc tonnau 30m o hyd rwy’n ei ddefnyddio fel rhan o fy mhrosiect yn wych.
Beth yw eich cynlluniau am y dyfodol?
Dwi ddim wedi meddwl llawer amdanyn nhw a bod yn onest. Does dim angen i fi feddwl ymhellach na PhD pedair blynedd ar hyn o bryd. Yn ddelfrydol, hoffwn i wneud gwaith ymchwil ledled y byd, gan
gyfuno ymchwil â theithio’n fyd-eang, a defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gen i.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig drwy fynd i: www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ymchwil