Hilary Nguyen
- Gwlad:
- Fietnam
- Cwrs:
- MA Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
Dewisais i astudio yng Nghymru ar ôl gwneud llawer o ymchwil am gyrsiau Astudiaethau'r Cyfryngau a gweld bod y cyrsiau ym Mhrifysgolion Cymru yn arbennig o dda, yn enwedig yr un ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydw i'n mwynhau bob eiliad o astudio yma gan bod y darlithwyr yn ysbrydoledig a phroffesiynol iawn. Yn fwy na hynny, mae'r cwrs yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai gyda'r asesiad yn seiliedig ar aseiniadau, gwaith grŵp ymarferol a phrosiectau unigol. Mae e'n caniatau i fi ddatblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu proffesiynol, gwella fy ngallu gyda chyfryngau digidol a dysgu sut i gyflwyno syniadau mewn amryw o ffyrdd. Mae'r sgiliau a'r galluoedd hyn yn mynd i fod yn hollbwysig ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.
Dwi'n caru Abertawe achos: yn gyntaf, mae Abertawe'n heddychlon iawn gyda chyfradd trosedd isel. Ar ben hynny, mae'r bobl yma yn hynod gyfeillgar, yn enwedig myfyrwyr rhyngwladol.
Yn ail, darganfyddais fod Abertawe'n brydferth iawn gyda natur syfrdanol. Gallwch gael mynediad hawdd i'r traeth, mynyddoedd, gan eu bod yn rhan o'r ddinas.
Yn drydydd, dwi'n gweld bod costau byw yn Abertawe yn fforddiadwy iawn. Mae'n cael ei hystyried yn un o'r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU tra'n dal i gadw safon byw uchel. Felly, mae Abertawe yn ddinas i bawb, yn enwedig i fyfyrwyr rhyngwladol.