Fflur Mathias
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- BA Cymraeg
Beth gwnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich cwrs ym Mhrifysgol Abertawe?
Roedd y campws yn brydferth â golygfeydd hardd. Roedd popeth o fewn pellter cerdded ar y campws a doedd dim byd yn bell i ffwrdd. Roedd y darlithwyr yn gyfeillgar ac yn gefnogol.
Sut gwnaeth eich gradd helpu i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa?
Gan fod y Gymraeg yn bwnc roeddwn i wedi ei fwynhau yn yr ysgol ac roedd gen i ddiddordeb mewn gyrfa addysgu, roeddwn i'n meddwl y byddai astudio pwnc fel y Gymraeg yn agor llawer o ddrysau i fi. Erbyn hyn, rwy'n athrawes Gymraeg mewn ysgol uwchradd, felly mae cryn dipyn o gynnwys wedi fy helpu i baratoi – roedd yn golygu bod fy sgiliau ieithyddol o safon ramadegol uchel, yn ogystal â golygu bod gen i wybodaeth am lenyddiaeth wahanol. Gwnaeth fy ngradd ym Mhrifysgol Abertawe helpu hefyd i fy mharatoi ar gyfer rhagor o astudiaethau o ran traethodau academaidd a sut dylid eu hysgrifennu.
Pa sgiliau y gwnaethoch eu dysgu yn ystod eich astudiaethau rydych chi'n eu defnyddio nawr yn eich gyrfa?
- Cydweithio a chyfathrebu â phobl wahanol
- Bodloni terfynau amser yn effeithlon
- Cwrdd â phobl newydd a phrofi amgylcheddau newydd
- Meithrin perthnasoedd
- Gweithio fel unigolyn yn ogystal â fel aelod o dîm
A fyddech yn argymell y cwrs hwn i ddarpar fyfyrwyr? (Esboniwch eich rhesymau)
Byddwn – roedd amrywiaeth eang o fodiwlau gwahanol ar y cwrs, felly cawson ni brofiad o ddarlithoedd ieithyddol a sut mae ieithoedd yn gweithio, yn ogystal â llenyddiaeth, gan edrych ar lenyddiaeth fodern a hen lenyddiaeth hanesyddol hefyd. Oherwydd yr amrywiaeth hon, roedd y cwrs yn ddifyr ac yn wahanol bob semester. Roedd y darlithwyr hefyd yn gymwynasgar iawn ac roedd eu swyddfeydd bob amser yn agored os oedd angen cymorth ychwanegol arnoch neu os oedd gennych gwestiynau am unrhyw beth.
Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?
Yn bendant, mae'n werth gwneud y gwaith caled i gyrraedd y nod. Mae'n gallu bod yn eithaf anodd, ond mae'r cyfan yn werth chweil. Dyma un o'r penderfyniadau gorau a wnes i erioed. Byddwn i'n argymell gwneud yn siŵr eich bod chi wedi cael peth profiad ym maes addysg yn gyntaf gan y gallwch elwa'n fawr ar hwn pan fyddwch chi'n mynd i ysgolion, a bydd yn eich helpu i fod yn hyderus yng nghwmni plant hefyd.
Rhaid i chi fabwysiadau meddwl agored a bod yn barod am bethau a fydd y tu hwnt i'ch rheolaeth o bosib, ac i feddwl am rywbeth yn y man a'r lle os oes angen. Ond mae'n yrfa ddifyr i ddechrau arni.