Emma Skinner
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BSc Economeg
Mae ffocws mawr mewn ysgolion ar astudio pynciau STEM ac yn arbennig annog merched i ddewis pynciau STEM yn y Brifysgol. Fodd bynnag, teimlaf y gellir gwneud mwy i annog menywod i astudio pynciau fel Economeg. Mae'r pwnc ei hun mor ddiddorol ac yn edrych ar y ffordd y mae'r byd yn gweithredu. Gall hefyd arwain at amrywiaeth o swyddi yn y llywodraeth, cyllid neu sefydliadau mawr, lle gallwch chi chwarae eich rhan wrth lunio polisïau a llunio penderfyniadau busnes mawr.
Rwyf wedi ymuno â chynllun mentora’r Ysgol Reolaeth a dyma’r penderfyniad gorau i fi wneud. Mae fy mentor yn Rheolwr Gwybodaeth yn Tata Steel ac mae'n wych am roi cyngor gyrfa i mi. Mae cael profiad o waith mewn cwmni mor fawr, byd-eang, wedi fy helpu i sylweddoli sut mae rôl pawb o fewn sefydliad yn bwysig i sicrhau bod busnes yn cael ei redeg yn llwyddiannus. Rwyf wedi cael profiad mor gadarnhaol yn y Brifysgol. Rwy'n falch o astudio Economeg ac ni allaf aros i weld lle bydd y radd yn mynd â fi.