Elen Wyn Jones
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- BA Cymraeg, Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
Fy hoff bethau am Abertawe, yn bendant yw’r traeth, y llefydd hardd i fynd i gerdded ac ymweld â e.e Y parc, Mwmbwls a’r gerddi botaneg, hefyd mae’r trigolion yr ardal a’r brifysgol yn hollol groesawgar ac mae’n gwneud i chi deimlo yn gartrefol.
Y rheswm pennaf am ddewis Abertawe oedd y traeth i mi, gan fy mod yn byw mewn ardal ble mae traeth gwahanol ryw 5 munud o'i gilydd, sy’n hollol heddychlon. Yn ogystal, nes i deimlo mai fan hyn dwi fod o’r cychwyn gyntaf, ac nad ydwyf wedi edrych yn ôl ac rwyf wedi disgyn mewn cariad ag Abertawe ac yn sicr, byddaf yn argymell Abertawe i fyfyrwyr eraill!
Yn ogystal â’r ardal, rwy’n mwynhau fy nghwrs yn fawr ac yn ffynnu ar y cyfle i gael cydbwysedd da o waith ysgrifenedig a gwaith ymarferol fel prosiectau cyfryngol neu greu cyflwyniad. Symudais i Abertawe yn ystod y pandemig, felly doedd fy mhrofiad ddim yn un arferol, ond cefais flas ar Abertawe a’r cyfle i wneud ffrindiau oes, a chael fy nysgu o safon arbennig, er ei fod ar ‘Zoom’.
Wedi i mi radio, y peth gyntaf rwy’n dymuno gwneud yw teithio’r byd wrth weithio ym mhob Gwlad y rwy’n mynd iddo. Ar ôl hynny, fy swydd ddelfrydol yw newyddiadurwraig neu gyflwynwraig teledu/ creu cynnwys digidol.
Wyt ti’n rhan, neu wedi bod yn rhan, o gymdeithas?
Rwy’n Llywydd ar y Gymdeithas Gymraeg ac yn aelod o Aelwyd yr Elyrch o fewn y Brifysgol.
Wyt ti wedi byw mewn neuadd breswyl yn ystod dy gwrs?
Do, bues yn byw mewn neuadd breswyl Gymraeg y llynedd ac rwyf nawr yn byw mewn tŷ yn Brynmill.
Wyt ti wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod dy gwrs?
Rwy’n gweithio’n rhan amser fel Llysgennad i’r Brifysgol a Chrëwr Cynnwys Digidol i’r Brifysgol.
Wyt ti wedi graddio neu wyt ti’n fyfyriwr ar hyn o bryd?
Rydwyf yn fyfyrwraig yn fy ail flwyddyn.
Wyt ti wedi astudio’n Gymraeg?
Rwy’n astudio’r holl gwrs yn y Gymraeg, a’n mwynhau’r holl brofiad. Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gyfleoedd drwy’r Gymraeg gyda chriw clos o bobl. Yn wythnosol, mae cyfarfod a’r Gymdeithas Gymraeg yn uchafbwynt i mi ac yn hynod bwysig i mi fel Llywydd ac fel aelod.