Anne Cardenas
- Gwlad:
- Unol Daleithiau America
- Cwrs:
- MA drwy Ymchwil Hanes
Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Pwnc fy nghynnig grant Fulbright oedd ymchwilio i'r Kindertransport ac yn enwedig y Kinder (sef y plant) hynny a dreuliodd amser yng Nghymru. Chwiliais i am arbenigwyr yn y maes a chanfod Rebecca Clifford, sy'n ymgynghorydd i mi erbyn hyn, yn Abertawe. Rhoddodd hi argymhelliad gloyw ynghylch y Brifysgol hefyd.
Allet ti ddweud wrthym am dy gwrs a beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf?
Rydw i'n defnyddio fy nghefndir fel hanesydd llafar ac yn ymchwilio i hanes y Kindertransport a Chymru. Rwy'n gobeithio cyfweld â Kinder (sef plant) a adawodd yr Almaen Natsïaidd a dwyrain Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd a threulio amser yng Nghymru yn blant. Rwy'n mwynhau fy ngwaith ymchwil yn fawr hyd yma, wrth gloddio drwy’r archifau a darllen atgofion, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gyfadran a'r staff cymwynasgar yn Abertawe.
Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?
- Y golygfeydd - rydw i wedi dwlu ar ambell i dro/heic rydw i wedi'i wneud o gwmpas ardal Abertawe
- Lletygarwch Cymru - mae Abertawe yn hynod gyfeillgar ac mae'n hawdd canfod y ffordd o'i chwmpas
- Parc Brynmill a'i elyrch
A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Yn bendant! Mae'r brifysgol wedi bod mor gefnogol a chymwynasgar, yn enwedig wrth ymdrin â phrotocolau COVID. Ac mae Abertawe ei hun yn ddinas lai, wych sy'n gartref delfrydol ar gyfer archwilio gweddill Cymru, y DU ac Ewrop hyd yn oed.