Amy Wellington
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- BSc Troseddeg a Seicoleg
Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Rwy'n dwlu ar feicio yn y Mwmbwls, yr holl draethau gwych gerllaw (megis y Tri Chlogwyn a Rhosili) a hufen iâ Joe's.
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Des i ddiwrnod agored gyda'm rhieni cyn penderfynu astudio yn Abertawe yn 2019. Roedd brwdfrydedd ac egni'r darlithwyr/adran Droseddeg heb eu hail gan gadarnhau fy mhenderfyniad i gyflwyno cais.
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Fy hoff beth am astudio am radd seicoleg a throseddeg oedd ei bod yn cynnwys fy niddordebau yn y cof/ymddygiad dynol a throseddau/y system cyfiawnder troseddol.
Os ydych chi'n Fyfyriwr Cydanrhydedd - pam dewisoch chi astudio Gradd Gydanrhydedd, a beth yw eich profiad?
Dewisais astudio gradd gydanrhydedd oherwydd bod ganddi'r potensial i agor llawer o ddrysau i chi yn y dyfodol o ran rhagolygon gyrfa boed hynny o ran y maes Seicoleg neu'r maes Troseddeg.
Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwyf yn dal i fod yn Abertawe ar hyn o bryd yn astudio cwrs gradd Meistr mewn Seicoleg Fforensig sy'n anhygoel a dyma'r cam cyntaf tuag at fy nod gyrfa sef bod yn Seicolegydd Fforensig yn y dyfodol.
A fyddech yn cynghori myfyrwyr eraill i ddewis Prifysgol Abertawe? Pam?
Dim ond profiadau cadarnhaol sydd gen i o fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd. Gwnes fwynhau fy amser cymaint fel fy mod wedi parhau â'm hastudiaethau ôl-raddedig yma.
Ydych chi wedi gwneud lleoliad gwaith fel rhan o'ch cwrs (Blwyddyn mewn Diwydiant)?
Ni cheir blwyddyn mewn diwydiant ond cefais y cyfle, drwy'r Adran Troseddeg, i fod yn intern gyda Thaclo'r Tacle i hyrwyddo'r ymgyrch 'Yn Ddiofn' i bobl ifanc.
Pam oeddech chi eisiau cymryd rhan mewn gwirfoddoli / interniaethau?
Roeddwn i am ennill mwy o sgiliau cyflogadwyedd. Rydw i wedi gweithio mewn llys yn gwirfoddoli ac roeddwn am roi cynnig ar faes gwahanol i wella fy sgiliau a’m profiad. Roedd Taclo’r Taclau wedi fy nenu oherwydd mae eu hymgyrchoedd yn hanfodol ar gyfer codi ymwybyddiaeth am faterion trosedd cynyddol yn yr ardaloedd lleol, ac rwy’n angerddol am hyn.
Sut brofiad oedd yr interniaeth i chi?
Roedd profiad yr interniaeth yn werthfawr a mewnweledol oedd dysgu am y maes hwn o waith. Fe wnes i fwynhau addysgu pobl ifanc am ganlyniadau trosedd a’u helpu i ddeall gwahanol gysyniadau, ar y cyfan, roedd yn brofiad da.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am gymryd rhan mewn interniaethau?
Peidiwch â diystyru’r pŵer o wneud interniaeth a pha ddrysau y gall eu hagor i chi. Ydy, mae'n waith ychwanegol ond mae'r rhagolygon yn dilyn y profiad hwn wedi bod yn wych. Yn ail, rhowch y cyfan i’r interniaeth a dywedwch ‘ie’ i'r cyfleoedd a ddaw i chi.
Ydych chi wedi byw mewn neuaddau preswyl/tai i fyfyrwyr neu gartref yn ystod eich astudiaethau?
Preswyliais mewn preswylfa yn y flwyddyn gyntaf ac roedd hynny'n brofiad anhygoel i gwrdd â phobl sy'n astudio graddau eraill a meithrin cyfeillgarwch. Yna symudais adref yn ystod y pandemig.
Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, rwyf wedi cael sawl swydd wahanol yn ystod fy amser yn y brifysgol o fod yn barista, yn gynorthwy-ydd cwsmeriaid a bellach yn gynorthwy-ydd mewn fferyllfa. Mae gwirfoddoli mewn meysydd perthnasol i'm gradd hefyd wedi bod yn allweddol ar gyfer fy llwyddiant yn bennaf gyda'r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ac Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal yn y Carchar.