Amy Turnbull
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- BSc Ffarmacoleg Feddygol
Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Rwy'n dwlu ar y ffaith bod y Brifysgol mor gyfeillgar a chan fod cynifer o fyfyrwyr yn byw yn y ddinas, rwyf bob amser yn dod ar draws pobl rwy'n eu hadnabod ar y campws neu yn y ddinas. Roedd dod i Abertawe'n newid mawr i mi ac yn wahanol iawn i fy nghartref ym Manceinion, ond cyn bo hir cwympais i mewn cariad â’r lle, gan fod y ddinas mor agos at y traeth a heb fod yn bell o rai o rannau harddaf Cymru.
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Gwaetha'r modd, gwnaeth fy nghanlyniadau Safon Uwch ddim bodloni fy nisgwyliadau, ond ar hap des i ar draws cyrsiau “Llwybrau i Feddygaeth” Prifysgol Abertawe. Ar ôl breuddwydio am fod yn feddyg ers cyhyd, yr opsiwn “Llwybrau i Feddygaeth” roedd Abertawe'n ei gynnig oedd yr un mwyaf addas i mi. Roeddwn i'n dal i allu gwneud gradd a oedd yn ymwneud â fy hoffter o wyddoniaeth, yn ogystal ag archwilio agwedd ar wyddoniaeth nad oeddwn i byth wedi meddwl amdani o'r blaen, Ffarmacoleg!
Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Fy hoff beth am fy nghwrs yw bod fy ngharfan yn weddol fach, felly mae'n hawdd iawn dod i adnabod pawb a chyfathrebu â darlithwyr mewn grŵp bach. Mae hyn wedi bod yn help anferth gan fy mod i'n teimlo bod y staff addysgu wedi rhoi cymorth go iawn i mi drwy gydol fy nghwrs.
Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwy'n bwriadu aros ym Mhrifysgol Abertawe i astudio Meddygaeth i Raddedigion, yn y gobaith o allu ymgorffori fy ngradd israddedig mewn Ffarmacoleg Feddygol yn fy ngyrfa yn y dyfodol drwy wneud rhywbeth fel tocsicoleg glinigol.
Fyddech chi'n cynghori myfyrwyr eraill i ddewis Prifysgol Abertawe? Pam?
Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amrywiaeth enfawr o raddau israddedig ym maes gwyddoniaeth ac yn agor drysau i feysydd nad ydynt ar gael yn ystod cyrsiau Safon Uwch. Wrth gwblhau eich gradd, gallwch ehangu ac archwilio pynciau y tu allan i'r brif radd gyda modiwlau dewisol.
Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe?
Ers fy mlwyddyn gyntaf, rwyf wedi bod yn rhan o Glwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe. Ymunais i yn ystod mis Hydref 2022 pan oedd cyfyngiadau COVID-19 yn dal ar waith, a dyna un o'r campau prin roedd modd eu cynnal gan ei bod hi yn yr awyr agored. Clwb rhyw cymysg yw ef, felly rwyf wedi cwrdd ag amrywiaeth mor eang o bobl na fyddwn i wedi cwrdd â nhw pe bawn i heb ymuno ag ef. Rwyf wedi datblygu cynifer o sgiliau ac rwyf wedi gallu teithio o gwmpas y wlad i gystadlu mewn rasys yn erbyn y cloc a regatas.
Ydych chi wedi byw mewn neuaddau preswyl/tai i fyfyrwyr neu gartref yn ystod eich astudiaethau?
Roeddwn i'n byw yn HSV yn ystod fy mlwyddyn gyntaf gan mai dyna'r llety rhataf a oedd ar gael a'r unig lety gallwn i fforddio byw ynddo. Roeddwn i'n dwlu ar fyw yno gan i mi gael cyfle i gwrdd â llawer o bobl, a oedd yn wych pan ddes i i Abertawe yn ystod COVID-19, wrth fy helpu i beidio â theimlo'n unig.
Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Rwyf wedi cael y fraint o weithio fel myfyriwr llysgennad yn y Brifysgol yn ystod fy ail a fy nhrydedd flwyddyn. Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd i weithio ar raglenni allgymorth, diwrnodau agored ac ymgyrchoedd galw. Mae'n swydd wych gan y gallwch chi ddewis a dethol pryd rydych chi'n gweithio ac, wrth gwrs, mae'r Brifysgol yn hynod hyblyg o ran cyfnodau arholiadau hefyd.
Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwyf wedi defnyddio'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gyfer iechyd meddwl, ochr yn ochr â'r tîm cymorth anabledd sydd wedi fy llywio drwy'r broses o gyflwyno cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.