Gan ddathlu modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol a'r nerth cariadus mae dynion yn ei roi i'w teuluoedd a'u cymunedau, cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Dynion ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022.
Eleni, caiff tair thema eu hamlygu drwy gyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad darlithwyr ac ymchwilwyr blaenllaw o Brifysgol Abertawe.
- Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i les a bywydau dynion a bechgyn
- Hyrwyddo sgwrs gadarnhaol am ddynion, dyndod a gwrywdod
- Codi ymwybyddiaeth a/neu arian i elusennau sy'n cefnogi lles dynion a bechgyn
Mae'r fideo yma wedi cael ei greu gan ymgyrch ryngwladol i ddangos pwysigrwydd nodi'r diwrnod penodol hwn.