Nid yw bob amser yn hawdd rhoi gwybod i bobl eraill am eich anabledd neu'ch cyflwr meddygol. Does dim rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth am eich anabledd neu'n cyflwr meddygol; eich penderfyniad chi yw rhannu'r wybodaeth hon ai peidio.
Gallwch ddatgelu anabledd ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau, ond rydym yn eich annog yn gryf i ddatgelu'ch anabledd neu'ch anhawster dysgu penodol cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn galluogi staff y Brifysgol i ddarparu cymorth a chefnogaeth sy'n briodol i'ch anghenion unigol.
Pryd bynnag rydych yn penderfynu datgelu anabledd neu gyflwr meddygol, bydd y Wasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr ar gael i gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad.
Os ydych yn penderfynu dweud wrthym am eich anabledd neu'ch cyflwr meddygol, byddwn yn cadw'r wybodaeth honno'n gyfrinachol yn Wasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr. Ni fyddwn yn datgelu'ch anabledd i staff eraill yn y Brifysgol heb eich caniatâd. Yr unig eithriad i'r rheol hon yw lle byddwch chi neu bobl eraill mewn perygl ac nid oes gennym unrhyw ddewis ond cyflawni ein dyletswydd gofal.
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Ddatganiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr.