Mae'r Academi Iechyd a Lles yn ganolfan ragoriaeth â’r nod o hyrwyddo profiad cadarnhaol o enedigaeth i fenywod a chymdeithas. Mae'r Academi yn hyrwyddo amrywiaeth o fentrau bydwreigiaeth, ac yn gwella profiad y myfyrwyr drwy eu cynnwys mewn agweddau sylfaenol ar rôl y fydwraig.

Mae ein menter Bydwreigiaeth yn hyrwyddo diwylliant o enedigaeth ffisiolegol ac ymagwedd gadarnhaol at fagu plant fel y safon arferol. Ein nod yw arwain y ffordd, drwy'r Academi a'r gymuned bydwreigiaeth ehangach, yn yr ymgyrch dros newid mewn gwasanaethau bydwreigiaeth, er mwyn sicrhau bod pob menyw'n cael mynediad i ofal priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Rhianta Cadarnhaol Cyn Geni

Babi

Mae ein Dosbarthiadau Cyn Geni Geni, Babi a Chi yn ffocysu ar olwg mwy cyfannol ar baratoi ar gyfer genedigaeth a magu plant. Dan arweiniad myfyrwyr bydwreigiaeth gyda chefnogaeth bydwragedd cymwys, bydd ein rhaglen AM DDIM yn eich arwain a’ch cefnogi chi a’ch partneriaid geni trwy chwe wythnos o ddosbarthiadau cyn geni:

  • Wythnos Un: Eich Baban sy'n Datblygu
  • Wythnos Dau: Paratoi ar gyfer Genedigaeth
  • Wythnos Tri: Genedigaeth, Babi a Chi
  • Wythnos Pedwar: Gobeithion ac Ofnau
  • Wythnos Pump: Bwydo eich Babi
  • Wythnos Chwech: Gofalu am Fabi, Gofalu Amdanat Ti

Ymunwch â ni yn yr Academi Iechyd a Llesiant bob dydd Mercher rhwng 6pm ac 8pm o 1 Tachwedd 2023.

Ffoniwch yr Academi Iechyd a Llesiant i gadw lle ar y cwrs nesaf sydd ar gael: 01792 518600

Ble ddylwn gael fy mhabi?