Dr Jia Wang

Dr Jia Wang

Ymunodd Dr Jia Wang â’r IISTL yn 2023. Enillodd radd LLB mewn Cyfraith Forwrol o Brifysgol Forwrol Dalian, ac yna bu'n farnwr mewn llys lleol yn Tsieina am ddwy flynedd. Mae gan Jia ddwy radd LLM mewn Cyfraith Forwrol o Brifysgol Forwrol Dalian a Phrifysgol Nottingham cyn iddi gwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Nottingham yn 2023.

Cyn ymuno â’r IISTL, bu Jia'n Gydymaith Addysgu ym Mhrifysgol Nottingham rhwng 2021 a 2023 yn addysgu Cyfraith Contract Lloegr a Chyfraith Gyhoeddus i israddedigion.

Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol ac astudiaethau cyfreithiol cymharol, cyfraith yswiriant morol gyda ffocws penodol ar ddiogelu busnesau bach a chanolig mewn busnesau yswiriant a globaleiddio cyfreithiol. Ei harbenigedd addysgu yw cyfraith yswiriant morol, cyfraith fasnach ryngwladol a chludo nwyddau ar y môr.

Mae Jia'n aelod o’r Gymdeithas Ysgolheigion Cyfreithiol ac yn adolygwr cymheiriaid ar gyfer y Global Journal of Comparative Law.