Polisi Diogelu Data

Polisi Diogelu Data

Cefndir

Nod y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y Rheoliad) yw cysoni ac atgyfnerthu deddfwriaeth ac ymarfer diogelu data ledled yr UE a daw i rym ar 25 Mai 2018. Yn debyg i Ddeddf Diogelu Data 1998, caiff ei reoleiddio yn y DU gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Bydd yn gymwys yn y DU a chaiff ei ategu gan Ddeddf Diogelu Data 2018 sy'n deddfu yn y meysydd hynny lle mae'r Rheoliad yn rhoi hawl i aelod-wladwriaethau'r UE amrywio'r rheolau, ac mae’n manylu ar bwerau rheoleiddio Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Yn debyg i Ddeddf Diogelu Data 1998, mae'r Rheoliad yn pennu rheolau a safonau ar gyfer defnyddio gwybodaeth am unigolion byw y gellir eu hadnabod, ac mae'n gymwys i bob sefydliad cyhoeddus a phreifat. Nid yw'n gymwys i wybodaeth ddienw nac i wybodaeth am bobl sydd wedi marw. Mae rheolau a safonau'r Rheoliad yn seiliedig ar yr egwyddorion diogelu data a hawliau unigolion.

Diben

Mae Prifysgol Abertawe'n cadw data personol am ymgeiswyr am swyddi, staff cyflogedig, gweithwyr, myfyrwyr, cyflenwyr ac unigolion eraill, at amrywiaeth o ddibenion.

Mae'r polisi hwn yn nodi'r trefniadau sydd ar waith yn y Brifysgol i ddiogelu data personol ac i sicrhau bod staff a myfyrwyr yn deall y rheolau sy'n berthnasol i ddefnyddio’r data personol sydd ar gael iddynt yn eu gwaith a/neu eu hastudiaethau.

Cwmpas

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’n holl staff a myfyrwyr, ac i bob eitem data personol sy’n cael ei chreu, ei storio a/neu ei phrosesu drwy unrhyw un o weithgareddau Prifysgol Abertawe. Mae’n berthnasol i bob maes, gan gynnwys Ysgolion, Colegau, Unedau Gwasanaeth Proffesiynol yn ogystal ag is-gwmnïau sy’n eiddo’n llwyr i’r Brifysgol.

Heb fod yn gyfyngedig i'r rhain, mae'r polisi hwn yn berthnasol i systemau Cwmwl sy'n cael eu datblygu neu eu comisiynu gan Brifysgol Abertawe; unrhyw systemau neu ddata sy'n gysylltiedig â rhwydweithiau data neu ffôn y Brifysgol; systemau a reolir gan Brifysgol Abertawe; dyfeisiau symudol a ddefnyddir i gysylltu rhwydweithiau'r Brifysgol neu sy'n dal data'r Brifysgol; data y mae Prifysgol Abertawe'n berchen ar yr hawliau deallusol drosto; data lle mai Prifysgol Abertawe yw’r Rheolydd neu’r Prosesydd Data; neu gyfathrebiadau electronig a anfonir o Brifysgol Abertawe.

Gweithdrefnau Diogelu Data