Llun grŵp o enillwyr Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2022.

Llun grŵp o enillwyr Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2022.

Mae dau fusnes dan arweiniad graddedigion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn yr anrhydeddau mwyaf yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru eleni.

Mae'r gwobrau'n dathlu cyflawniadau'r unigolion eithriadol hynny sydd wedi cael syniad gwych, gweld cyfle a mentro i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd, megis enillydd Gwobr Busnes Newydd Gorau Cymru eleni, Drop Bear Beer Co.

Sefydlodd Joelle Drummond, a raddiodd o Brifysgol Abertawe, a Sarah McNena, ei phartner a'i chyd-sylfaenydd, Drop Bear in 2019 ar ôl darganfod diffyg amrywiaeth yn y farchnad cyrfau dialcohol.

O ddechreuad diymhongar yng nghegin Joelle, Drop Bear yw bragwr arbenigol cyrfau crefft dialcohol uchaf ei fri yn y DU bellach.

Fel y bragdy dialcohol cyntaf yn y byd a sefydlwyd gan fenywod a phobl LGBTQIA+, mae Drop Bear yn gyson yn herio ystrydebau ac yn ymdrechu i ychwanegu amrywiaeth at ddiwydiant traddodiadol. Amlygwyd hyn gan dair buddugoliaeth arall y bragdy yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru:

  • Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn
  • Busnes Newydd Gorau'r Flwyddyn – Bae Abertawe
  • Busnes Gwyrdd Newydd y Flwyddyn

Wrth sôn am y gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon, meddai Joelle: “Mae'n fraint ein bod ni wedi ennill pedair gwobr yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru.

“Mae Drop Bear wedi mynd â ni ar daith anhygoel, ac er bod ein presenoldeb cenedlaethol a rhyngwladol yn cynyddu'n gyflym, rydyn ni'n falch o fod yn fusnes o Gymru o hyd; roedd gweld aelodau ein cymuned fusnes leol yn sefyll i'n cymeradwyo yn brofiad emosiynol iawn.

“Ar ôl graddio ddwywaith o Brifysgol Abertawe, mae wedi bod yn anrhydedd go iawn gweithio gydag aelodau ei thîm mentergarwch a chefnogi eu hymagwedd arloesol at feithrin entrepreneuriaeth yn Abertawe.”

Roedd yn noson i'w dathlu hefyd i'r cwmni meddalwedd Dill, a enillodd wobr Busnes Newydd Gorau'r Flwyddyn yn y categori graddedigion.

Mae'r categori hwn, a noddir gan Brifysgolion Cymru, yn agored i fusnesau newydd yng Nghymru a sefydlwyd gan unigolion sydd wedi graddio o brifysgol yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Cyflwynodd Alex-Ioan Coldea, sylfaenydd Dill a chyn-fyfyriwr a raddiodd mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Abertawe, yr ap yn 2020.

O fewn dwy flynedd yn unig, mae Dill wedi cael ei chyflwyno mewn nifer o ysgolion, awdurdodau lleol, prifysgolion a cholegau, gan ddefnyddio meddalwedd i gael gwared ar galedwedd ddiangen, lleihau costau cynnal a chadw, a symleiddio gwasanaethau arlwyo.

Meddai Kelly Jordan, Uwch-swyddog Mentergarwch ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae Joelle a Sarah yn entrepreneuriaid modern sy'n ysbrydoli, ac rydyn ni'n falch iawn ohonyn nhw, am osod esiampl drwy eu hentrepreneuriaeth ysbrydoledig, yn ogystal â'r gwobrau niferus y maen nhw'n eu hennill yn barhaus.

“Mae'n wych hefyd gweld Alex a'i fusnes, Dill, yn mynd o nerth i nerth. Mae ei ap yn ysgubo drwy brifysgolion, gan leihau amserau aros, a chynyddu cynhyrchiant ac elw. Mae'r wobr hon, ymysg y gwobrau eraill y mae ef wedi eu hennill, yn wirioneddol haeddiannol.

“Mae Drop Bear a Dill yn enghreifftiau ardderchog o'r entrepreneuriaid talentog sy'n graddio o Brifysgol Abertawe, ac rydyn ni'n ddiolchgar ein bod ni'n gallu cynnig y cyfle i fyfyrwyr i wireddu eu syniadau busnes.”

A ydych yn ddarpar entrepreneur? Dyma ragor o wybodaeth am sut gall y Brifysgol eich cefnogi.

Rhannu'r stori