Professor Mike Fowler

Yr Athro Mike Fowler

Athro, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295443

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 100
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y ffordd y mae rhyngweithio rhywogaethau ac amrywioldeb amgylcheddol stocastig yn cyfuno i ddylanwadu ar wahanol fathau o sefydlogrwydd ecolegol a deinamig rhywogaethau ymledol. Rwy’n cyfuno dulliau modelu dadansoddol, efelychiad ac ystadegol i ymchwilio i’r ffordd y mae mathau gwahanol o amrywiadau amgylcheddol (gofodol a/neu dymhorol) yn llywio newidiadau mewn poblogaethau, gyda’r nod bob amser o gyfuno damcaniaethau bioleg poblogaethau â gwaith empirig lle bynnag y bo’n bosibl, ar draws amrywiaeth o systemau astudio.

Mae prosiectau ymchwil diweddar a pharhaus yn cynnwys: (i) archwilio dynameg eco-esblygol ac ymatebion i amrywiadau amgylcheddol mewn poblogaethau yn ôl strwythur cyfnodau; (ii) datblygu ein dealltwriaeth o rywogaethau ymledol a’u rheolaeth; (iii) integreiddio gwydnwch ecosystemau i waith cynllunio arfordirol er mwyn sicrhau parhad amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd a gwasanaethau ecosystem gwlyptiroedd; (iv) archwilio effeithiau amrywiadau amgylcheddol mewn modelau esblygol syml.

Meysydd Arbenigedd

  • Dynameg gymhleth
  • stocastigedd amgylcheddol
  • rhywogaethau–rhyngweithio amgylcheddol
  • rhywogaethau–rhyngweithio rhywogaethau.
  • prosesau stocastig lliw
  • dynameg gofodol-tymhorol
  • dadansoddi data
  • dulliau meintiol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

2017 Gwobr “Innovations in Sustainability” Ecological Society of America (gweler Donohue et al 2016, Ecology Letters).

Cydweithrediadau