Trosolwg
Mae Marcus Doel yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ac ef yw’r Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei lyfrau'n cynnwys Poststructuralist Geographies: The Diabolical Art of Spatial Science (Edinburgh University Press), Geographies of Violence: Killing Space, Killing Time (Sage), Jean Baudrillard: Fatal Theories (Routledge), The Consumption Reader (Routledge), a Moving Pictures/Stopping Places: Hotels & Motels on Film (Lexington). Mae Marcus wedi cyhoeddi dros 100 o erthyglau eraill ar gyfer cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a phenodau llyfrau ar gyfer casgliadau a olygir, ac mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar strwythuriaeth ac ôl-strwythuriaeth, damcaniaeth gymdeithasol ac ofodol, dinasoedd sinematig a chymdeithas defnyddwyr, modernedd ac ôl-fodernedd a thechnolegau gweledol a daearyddiaethau yn y cyfryngau.