Trosolwg
Ers iddi ennill ei PhD yn 2002, mae hi wedi gweithio ym maes ymchwil canser. Bu Claire yn gweithio gynt yn Uned Celloedd Canser nodedig y Cyngor Ymchwil Meddygol yng Nghaergrawnt cyn dychwelyd i Brifysgol Abertawe. Mae Claire yn gweithio yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1, lle mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddarganfod cyffuriau canser a thrin genynnau. Dyfarnwyd cyllid gan Cancer Research UK a Llywodraeth Cymru iddi yn ddiweddar i'w galluogi i ddatblygu ei hymchwil i ddarganfod cyffuriau ymhellach. Mae Claire yn Athro Cysylltiol mewn Geneteg Canser a hi yw Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Meddygaeth Genomig. Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Rhaglen, sefydlodd Claire y cwrs cyntaf yng Nghymru mewn Meddygaeth Genomig i gael ei gefnogi'n llawn gan y GIG. Mae Claire hefyd yn aelod gwadd o Bartneriaeth Genomeg Cymru a Grŵp Strategol Ymgynghorol Parc Genynnau Cymru.
Claire hefyd yw Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y cynlluniau gradd BSc mewn Geneteg a Geneteg Feddygol ac mae hi'n addysgu ar yr holl gynlluniau gradd israddedig yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys y cynlluniau gradd BSc mewn Geneteg a Geneteg Feddygol, Gwyddorau Meddygol Cymhwysol ac Iechyd y Boblogaeth a Gwyddorau Meddygol.
Mae hi'n uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac mae ganddi sawl rôl arholwr allanol.