'Fy Hoff Lyfr / Stori'

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas – sy'n cael ei ddathlu ar 14 Mai bob blwyddyn – eleni, mae DylanED yn gwahodd plant ysgol rhwng 8 ac 11 oed i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig iawn.

Thema'r gystadleuaeth eleni yw Fy Hoff Lyfr / Stori’.

Gan ddilyn camre Dylan Thomas, llenor ac adroddwr straeon mwyaf blaenllaw Abertawe, mae'r gystadleuaeth yn chwilio am blant ysgol rhwng 8 ac 11 oed i gyflwyno stori fer (100 gair), cerdd neu lun yn dweud wrthym am eu hoff lyfr / stori.

*Rhaid i'r holl geisiadau gael eu cyflwyno drwy athro/ysgol y plentyn.

Bydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn bag llawn pethau da a thystysgrif. Bydd ceisiadau dethol yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa ar-lein i ddathlu 'Diwrnod Dylan'.

Dylid cyflwyno ceisiadau'n electronig erbyn dydd Gwener 19 Ebrill 2024 i cultural-institute@abertawe.ac.uk dan y teitl ‘Fy Hoff Lyfr / Stori’.