Cynhelir yr ensembles a restrir yma gan Gymdeithas Cerddorion Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â'r Gwasanaeth Cerdd.
Cerddorfa Prifysgol Abertawe
Mae Cerddorfa Prifysgol Abertawe yn chwarae ystod eang o gerddoriaeth o'r cyfnod clasurol hwyr ymlaen, fel arfer yn cynnwys rhywfaint o gerddoriaeth o’r byd ffilm ac un neu ddau berl llai adnabyddus. Mae'r gerddorfa'n cynnal cyngerdd flynyddol yn y Neuadd Fawr, ac mae hefyd yn perfformio yng nghyngherddau haf a gaeaf Cymdeithas y Cerddorion. Ni chynhelir clyweliad ar gyfer y llinynnau, ac mae croeso i chwaraewyr newydd bob amser. Bydd chwaraewyr chwythbrennau a phres yn ymuno drwy glyweliad ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
Band Mawr Prifysgol Abertawe
Mae Band Mawr Prifysgol Abertawe yn mynd o nerth i nerth, gan chwarae cerddoriaeth swing glasurol, jazz modern, ffync, a llawer o genres eraill, mewn cyngherddau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae'r uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys dawns cinio blynyddol Cymdeithas y Cerddorion a gweithdai gyda Cherddorfa Jazz Ieuenctid Cenedlaethol.
Cerddorfa Chwythbrennau Prifysgol Abertawe
Mae Cerddorfa Chwythbrennau Prifysgol Abertawe yn fand mawr, uchelgeisiol, di-glyweliad, gyda hanes diweddar trawiadol. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd perfformiadau arobryn yng Ngŵyl y Bandiau Cyngerdd Cenedlaethol, a chydweithio â'r Gymdeithas Gorawl yn y Neuadd Fawr. Mae'r repertoire yn canolbwyntio ar gerddoriaeth chwythbren wreiddiol o safon, ynghyd â rhywfaint o gerddoriaeth ffilmiau sy'n plesio'r dorf ac yn arddangos doniau cerddorol.
Band Pres Prifysgol Abertawe
Mae ein ensemble pres symffonig yn chwarae amrywiaeth eang o gerddoriaeth – o Gabrielli a Bruckner i'r gerddoriaeth bres gyfoes orau.
Ensembles llai
Yn ogystal â'r prif ensembles, mae gennym amrywiaeth o grwpiau llai - gan gynnwys grŵp sacsoffonau, côr ffliwt a grŵp gwerin.