Cyngor personol gan rywun a gafodd ei le drwy Glirio

Bethany Love – Eifftoleg ac Hanes yr Henfyd, BA

Fy mhrofiad o glirio

Cyrhaeddais y brifysgol drwy’r system Clirio ac roedd y broses yn syml iawn ac yn ddi-straen.

Ar ôl i mi gofrestru ar gyfer Clirio, anfonodd Prifysgol Abertawe neges e-bost ataf y diwrnod hwnnw’n cynnig lle i mi ar fy nghwrs dymunol (Hanes yr Henfyd). Yn y dyddiau wedi hynny, os oedd gennyf unrhyw ymholiadau, roedd yn hawdd cysylltu â’r Brifysgol ac roedd rhywun wrth law bob amser i siarad â mi ac ateb fy nghwestiynau.

Cefais yr holl gymorth roedd ei angen arnaf cyn dod i Abertawe, gan gynnwys helpu i sicrhau llety yn y brifysgol ar gyfer fy mlwyddyn gyntaf.

Roeddwn yn fy modd yn cael lle yn y brifysgol. Nid yn unig oedd Prifysgol Abertawe yn cynnig y cwrs roeddwn am ei astudio, ond mae ganddi ei Chanolfan Eifftaidd ei hun hefyd – rhywbeth unigryw nad yw prifysgolion eraill yn ei chynnig.

Bethany Love – Eifftoleg ac Hanes yr Henfyd, BA

Bethany Love – Eifftoleg ac Hanes yr Henfyd, BA

Fy Mhrofiad yn Abertawe

Cymorth academaidd

Dechreuais yn Abertawe yn wreiddiol yn astudio cwrs anrhydedd sengl. Fodd bynnag, yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn yn gallu dewis nifer o fodiwlau Eifftoleg a darganfûm gariad newydd at arteffactau a hanes yr Aifft. Wedi hynny, llwyddais i newid fy nghwrs i radd cydanrhydedd Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg, BA.

Graddiais yn 2022 ac roeddwn wrth fy modd â’m tair blynedd yn Abertawe. Er i COVID darfu ar fy astudiaethau yn ystod y cyfnod hwn, roedd cymorth ar gael bob amser ac roedd y darlithwyr yn amyneddgar dros ben o ran aseiniadau. Aeth Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol y tu hwnt i’r galw i sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni’r gwaith gorau y gallwn.

Gweithgareddau allgyrsiol

Yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol, ymunais â’r gymdeithas Marchogaeth. Roedd y gymdeithas yn groesawgar dros ben. Yna, yn ystod fy nhrydedd flwyddyn, cefais fwrsariaeth chwaraeon a oedd yn fy ngalluogi i gael gwersi bob wythnos, gan olygu fy mod yn gallu dysgu sgiliau’n gynt o lawer. Roedd y digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal yn rheolaidd a phob amser yn cynnwys themâu hwyliog! Mae llawer o glybiau a chymdeithasau ar gael i fyfyrwyr yn Abertawe, felly gallwch bob amser ddod o hyd i rywbeth sy’n cyfateb i’ch diddordebau.

Pam Abertawe?

Mae gan ardal Abertawe lawer i’w gynnig. Mae’r ddinas ei hun yn fwy o lawer nag y byddech yn disgwyl ac mae wedi’i hamgylchynu gan fryniau a choedwigoedd i’r rhai sy’n mwynhau natur a cherdded. Mae’r traethau niferus yn yr ardal yn un o fanteision mawr Abertawe hefyd ac maent yn hygyrch drwy gydol y flwyddyn.

Mae cyfleusterau’r brifysgol yn wych, mae’r llyfrgell wedi’i chyfarparu’n dda ac mae digonedd o leoedd y gallwch chi fynd i astudio. Mae adeiladau fel Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn cynnig mannau astudio cymdeithasol hefyd.

Wedi graddio o Abertawe. Yna fe wnes i gwrs Meistr mewn Astudiaethau Amgueddfa.

Byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe yn fawr iawn ac ni fyddwch yn dod o hyd i le mwy croesawgar.

Lleoedd sydd ar Gael drwy Glirio

Mae gan ein rhaglenni leoedd Clirio ar gael i ti ymuno â ni ym mis Medi. Dysga ragor drwy edrych ar ein tudalennau cwrs:

Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.