Unol Daleithiau America: I wneud rhodd a manteisio ar ostyngiad treth incwm UDA, gallwch wneud rhodd i'r British Schools & Universities Foundation (Rhif Adnabod Ffederal 13-616-1189), sef sefydliad elusennol a gymeradwywyd gan Wasanaeth Cyllid Mewnol UDA o dan Adran  501(c)(3) o'u Côd. Dylech fynegi Prifysgol Abertawe fel eich dewis yn eich llythyr trosglwyddo, nid ar eich siec sydd i'w lunio yn nhrefn British Schools & Universities Foundation. Mae'r Sefydliad yn parchu dymuniadau o'r fath, ond caiff yr holl grantiau eu gwneud yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, yn ôl gofynion yr I.R.S.

Canada:   Y ffordd fwyaf syml o roi rhodd i Brifysgol Abertawe o Ganada yw drwy ymweld â'n tudalen rhoddion ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am roi i Brifysgol Abertawe o Ganada, ffoniwch y swyddfa ar +44 (0)1792 295156 neu anfon e-bost at alumni@abertawe.ac.uk

I roi o wlad arall, cysylltwch â ni.