Rhwydwaith Abertawe

Fel aelod gydol oes o Brifysgol Abertawe, rydych yn hynod bwysig i ni. Lle bynnag y byddwch chi yn y byd, gallwch fod yn rhan weithgar o'n rhwydwaith byd-eang o dros 165,000 o gyn-fyfyrwyr. Fel aelod o Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, bydd gennych fynediad at lawer o fanteision, gan gynnwys rhaglen ddigwyddiadau, aduniadau a chyfleoedd ymgysylltu.

Cadwch eich manylion yn gyfoes i sicrhau nad ydych yn colli'r newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf o Brifysgol Abertawe.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â ni ar Facebook, TwitterInstagram a LinkedIn.

Ymunwch â Chyswllt Prifysgol Abertawe!

Mae Cyswllt Prifysgol Abertawe'n gymuned ar-lein unigryw ar gyfer graddedigion, myfyrwyr a staff Abertawe. Mae llawer o fanteision y gallwch eu cael fel aelod:

  • Newyddion a ffrwd swyddi ddynodedig.
  • Cyfleoedd i fentora myfyrwyr neu raddedigion a rhoi rhywbeth yn ôl!
  • Gallwch gysylltu â gweithwyr proffesiynol yn eich diwydiant er mwyn rhwydweithio, cael cyngor, mentora a mwy.
  • Gallwch ganfod ac ailgysylltu â hen ffrindiau a'r bobl yn eich dosbarth.

Dangoswch eich Cefnogaeth

Wyddech chi fod gennym dros 130 o wirfoddolwyr sy'n gyn-fyfyrwyr yn rhoi o'u hamser i fod yn fentoriaid, yn siaradwyr gwadd ac yn arddwyr hyd yn oed! Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad a rhoi rhywbeth yn ôl!

Boed gartref neu dramor, edrychwn ymlaen at gysylltu â chi.