Nid disodli gwasanaethau'r GIG yw rôl y Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, ond galluogi a grymuso myfyrwyr sydd ag anawsterau iechyd meddwl i wneud penderfyniadau a dewisiadau cadarnhaol dros eu hunain. Os oes angen gwasanaethau'r GIG arnat (megis meddyg teulu, tîm iechyd meddwl cymunedol, seiciatrydd etc.), cynghorir i ti gadw mewn cysylltiad â'r gwasanaeth perthnasol.

Gall y Gwasanaeth Lles ac Anabledd ddarparu mynediad at:

 

Hefyd, gallwn ni:

  • Dy gynorthwyo â'r broses cyflwyno cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Mae cymorth tymor hir ar gyfer dy astudiaethau dim ond ar gael drwy'r pecyn cymorth hwn i fyfyrwyr y DU nad yw'n seiliedig ar brawf modd.
  • Cynghori/cysylltu ag adrannau academaidd ynghylch Addasiadau Rhesymol, os oes angen. Gallai addasiadau gynnwys amser ychwanegol mewn arholiadau, ystafelloedd llai mewn arholiadau neu ddulliau asesu amgen ar gyfer gwaith cwrs etc.
  • Rhoi cyngor i ti ar dy opsiynau cymorth os yw dy amgylchiadau a dy iechyd presennol yn gwneud astudio'n anodd i ti.

 

Ydych chi wedi rhoi cynnig ar: