Arddangos dy fflat i ddarpar fyfyrwyr

Myfyriwr gwrywaidd yn eistedd wrth ei ddesg llety

TALWCH LAI O RENT DRWY DDANGOS EICH YSTAFELL YN YSTOD DIWRNODAU AGORED

Drwy wirfoddoli i arddangos dy fflat, rwyt ti'n galluogi darpar fyfyrwyr i ymweld â'n preswylfeydd yn ystod y flwyddyn academaidd yn ystod Diwrnodau Agored wedi'u cynllunio, fel cest ti gyfle i’w wneud efallai pan oeddet ti'n dewis dy brifysgol. Bydd dy gymorth di'n helpu darpar fyfyrwyr a'r Brifysgol. 
Drwy gymryd rhan, bydd modd i ti arbed £20 y digwyddiad am bob tymor o ffioedd preswylio.

RÔL PRESWYLYDD FFLAT DDANGOS

Byddwch yn:

  • Sicrhau bod eich llety (yr ardaloedd cymunedol a'r ystafelloedd gwely) ar agor, mewn cyflwr taclus ac yn barod i ymwelwyr ei weld ar yr adegau a nodir isod. Mae hwn yn rhwymedigaeth gontract sy'n rhan o'ch cytundeb.
  • Croesawu ymwelwyr i'ch llety ar Ddiwrnodau Agored cynlluniedig mewn modd cyfeillgar, gan roi cyfle iddynt weld eich ystafell, yr ystafell ymolchi en suite (os yw'n berthnasol) a'r gegin.
  • Siarad am eich profiadau cadarnhaol o fyw yn un o breswylfeydd Prifysgol Abertawe. Mae darpar fyfyrwyr yn gwerthfawrogi barn myfyrwyr presennol ac maen nhw am glywed sut brofiad yw byw mewn preswylfeydd yn eich barn chi.

Bydd angen i chi sicrhau:

  • Bod y ceginau, yr ardaloedd cymunedol a'r ystafelloedd gwely yn lân, heb sbwriel a pheryglon baglu a bod drysau'r ystafelloedd gwely ar agor.
  • Eich bod yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd, fel preswylwyr fflat, am gadw'r ardaloedd cymunedol yn lân ac yn daclus. · Eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol/difrod cyn gynted ag rydych yn sylwi arnynt.
  • Sylwer, os byddwch yn methu'n gyson ag ymrwymo'n llawn i'r cynllun, yn anffodus, gellir gofyn i chi symud i lety arall. Mae eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad chi'n hanfodol.

I ddiolch i chi:

  • Ar ddiwedd eich holl ymweliadau cynlluniedig, caiff £20 ei gredydu i chi am bob digwyddiad pan fydd eich llety yn derbyn ymweliadau. Caiff hyn ei dynnu o ffioedd preswylio pob tymor.
  • Os na fyddwch yn agor eich ystafell, neu os na fyddwch yn gallu cymryd rhan yn yr ymweliadau cynlluniedig, fyddwch chi ddim yn derbyn y gostyngiad.
  • Bydd y timau glanhau'n rhoi sylw ychwanegol i'ch ystafell ar gyfer Diwrnodau Agored.

Eich ymrwymiad:

  • Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost cyn Diwrnodau Agored i'ch atgoffa am yr ymrwymiad hwn.
  • Rydym yn deall y gall fod gennych resymau am beidio â bod yn eich llety yn ystod Diwrnodau Agored penodol. Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'n negeseuon e-bost os na fyddwch yn gallu cymryd rhan mewn digwyddiad.
  • Ddylech chi ddim adael eich ystafell heb ei chloi os na fyddwch yn y llety yn ystod y Diwrnod Agored, ac ni fyddwch yn derbyn taliad.
  • Sylwer, os byddwch yn methu'n gyson ag ymrwymo'n llawn i'r cynllun, yn anffodus, gellir gofyn i chi symud i lety arall nad yw'n rhan o'r Cynllun Fflatiau Dangos.

DYDDIADAU & AMSERAU:

Dydd Sadwrn 21 Hydref

Dydd Sadwrn 11 Nhachwedd

Future dates TBC

 

CAMPWS PARC SINGLETON

CAMPWS Y BAE

Caswell 001-008

10am – 12:30pm & 1pm - 4pm

Clun 001/01-06

10am – 12:30pm & 1pm - 4pm

Caswell 009-016

10am – 1pm & 1:30pm – 4pm

Tawe 001/01-08

10am – 1pm & 1:30pm – 4pm

Penmaen 101-108

10am – 12:30pm & 1pm - 4pm

Dulais 001/01-08

10am – 12:30pm & 1pm – 4pm

Penmaen 109-116

10am – 1pm & 1:30pm – 4pm

Dulais 002/01-08

10am – 12pm & 12:30pm – 4pm

Gall amserlenni newid, a bydd y Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn rhoi’r manylion i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am arddangos eich fflat, e-bostiwch accommodation@abertawe.ac.uk