Apiau ffôn clyfar/tabled defnyddiol

Mae pob ap ar gael ar Android (drwy Playstore) neu Apple (drwy iTunes):

CategoriEnw'r ap a disgrifiad
Dibyniaeth No More! – Ap sy'n eich cefnogi bob dydd i oresgyn rhywbeth sy'n eich dal chi'n ôl rhag dod yn unigolyn gwell. Does dim ots os ydych yn ceisio goresgyn dibyniaeth ddifrifol megis yfed, ysmygu, gamblo neu'n ceisio gwella eich bywyd drwy roi'r gorau i weithgareddau; Gall No More! eich helpu i'w goresgyn ac ymfalchïo yn eich golwg – gyda nodweddion defnyddiol
Gorbryder Bydd MindShift yn eich helpu i ddysgu sut i ymlacio, datblygu ffyrdd mwy defnyddiol o feddwl a nodi camau pendant a fydd yn eich helpu i reoli'ch pryder. Mae'r ap hwn yn cynnwys strategaethau i ymdrin â gorbryder bob dydd yn ogystal ag adnoddau penodol i fynd i'r afael â'r canlynol: cwsg, goresgyn emosiynau dwys, profi gorbryder, perffeithiaeth, gorbryder cymdeithasol, gorbryder perfformiad, poeni, panig, gwrthdaro
Gorbryder Self-help anxiety Management – Mae SAM yn ap sy'n cynnig amrywiaeth o ddulliau hunangymorth i bobl sydd o ddifrif am ddysgu sut i reoli eu pryder. Datblygwyd SAM gan dîm o seicolegwyr, gwyddonwyr cyfrifiadura a myfyrwyr-defnyddwyr mewn prifysgol. Cyfunwyd dulliau hunangymorth profedig â safonau uchel o hwylustod er mwyn darparu adnodd bywiog, hyblyg ac ymarferol.
Gorbryder/Iselder Ysbryd/Straen What's Up? – Dyma ap sy'n defnyddio rhai o'r dulliau CBT (therapi gwybyddol ymddygiadol) ac ACT (therapi ymrwymiad derbyn) i'ch helpu i ymdopi ag iselder, gorbryder, dicter, straen a mwy! Gallwch gael yr hyn sy'n eich helpu chi fwyaf mewn eiliadau gyda'i ddyluniad modern, penawdau syml a dulliau hawdd eu dilyn.
Iselder Dyluniwyd MoodTools i'ch helpu i frwydro yn erbyn iselder a lliniaru eich hwyliau negyddol, gan eich helpu ar eich taith i wella. Mae MoodTools yn cynnwys nifer o declynnau gwahanol a gefnogir gan ymchwil. Maent yn cynnwys: dyddiadur meddyliau, gweithgareddau, cynllun diogelwch, gwybodaeth, prawf, fideo
Iselder T2 Mood Tracker – Dyluniwyd T2 Mood Tracker i'ch helpu i gadw cofnod o'ch  profiad emosiynol dros gyfnod amser ac i ddarparu offeryn i'ch galluogi i rannu'r wybodaeth hon â'ch darparwr gofal iechyd.  Daw'r ap â chwe mater sydd eisoes arno: gorbryder, iselder, lles cyffredinol, anaf i'r pen, straen wedi trawma a straen. Gallwch hefyd ychwanegu graddfeydd unigol ar unrhyw bwnc (e.e. graddfa boen).
Iechyd Mae Ask NHS yn rhoi mynediad gwell i chi at wasanaethau'r GIG. Gallwch drafod eich symptomau mewn modd cwbl gyfrinachol gydag Olivia, cynorthwy-ydd iechyd rhithwir. Os oes angen, bydd Olivia'n trefnu bod Nyrs 111 yn eich ffonio'n ôl i drafod eich symptomau ymhellach. Gallwch hefyd chwilio am gyngor gofal iechyd a gymeradwywyd gan y GIG, trefnu apwyntiadau gyda meddyg teulu a chwilio am amseroedd agor/lleoliadau gwasanaethau gofal iechyd lleol. Mae Ask NHS ar gael i bob claf yn y DU sy'n hŷn nag 18 oed.  Sylwer y dylech ffonio 999 os oes argyfwng sy'n peryglu bywydau.
Meddyginiaeth Drugs.com – Y ffordd hawsaf o chwilio am wybodaeth am gyffuriau, nodi pils, gwirio rhyngweithiadau a sefydlu eich cofnodion meddyginiaethau personol. Mae'r ap  wedi'i optimeiddio'n symudol i gyflymu eich profiad pori.
Ymwybyddiaeth ofalgar Mae Buddhify yma i'ch helpu i ddod â llonyddwch, eglurder a charedigrwydd i bob rhan o'ch bywyd. P'un a ydych yn ceisio lleihau straen a gorbryder, neu gael noson well o gwsg, mae gan Buddhify fyfyrdodau hawdd eu deall dan arweiniad i'ch helpu i fyw'n hapusach ac yn iachach. Ni fydd angen i chi ddod o hyd i'r amser am sesiwn fyfyrio ffurfiol bob dydd, byddwn yn dangos i chi sut i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i bob agwedd ar eich bywyd gydag ymarferion ar gyfer pa bynnag beth rydych chi'n ei wneud ym mha bynnag le – o deithio, cymryd egwyl yn y gwaith neu fynd i gysgu. Gwnawn eich helpu chi i ddod o hyd i lonyddwch ym mhob sefyllfa.
Ymwybyddiaeth ofalgar Calm yw'r ap myfyrdod perffaith i ddechreuwyr, ond mae hefyd yn cynnwys cannoedd o raglenni ar gyfer meddylwyr canolradd ac uwch. Mae sesiynau myfyrdod dan arweiniad ar gael am 3, 5, 10, 15, 20 neu 25 munud, felly gallwch ddewis yr hyd perffaith i gyd-fynd â'ch amserlen.
Ymwybyddiaeth ofalgar Bydd Headspace yn eich helpu i ganolbwyntio, anadlu a pherfformio hyd eithaf eich gallu drwy'r sgiliau myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar a fydd yn newid eich bywyd. Byddwch yn dysgu sut i hyfforddi eich meddwl a'ch corff am fywyd hapusach ac iachach mewn ychydig funudau bob dydd. Angen ychydig o ryddhad yn ystod diwrnod llawn straen? Gall Headspace eich helpu. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw lawrlwytho ein ap am ddim a'r ap ymwybyddiaeth ofalgar. Yna eisteddwch yn ôl, ymlacio ac anadlu.
Ymwybyddiaeth ofalgar Stop, Breathe & Think – yr ap ar gyfer myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'n defnyddio dull unigryw sy'n eich galluogi i ystyried eich emosiynau, yna mae'n argymell fideos myfyrio, ioga ac aciwbwysedd byr dan arweiniad, sy'n cyd-fynd â'ch teimladau.
Trefnu Simple Minds – Mae mapio meddwl yn eich helpu i drefnu'ch meddyliau, cofio pethau a chreu syniadau newydd. Rydym wedi creu ap prydferth a greddfol, fel y gallwch greu map meddwl ym mha bynnag le a phryd bynnag yr hoffech.
Trefnu ASD Planner – Mae'r ap newydd ac arloesol hwn yn cefnogi pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth drwy eu galluogi i gynllunio a threfnu gweithgareddau dyddiol. Drwy system reddfol, gall y defnyddiwr drefnu tasgau beunyddiol fesul cam ac ychwanegu cyngor, nodiadau atgoffa neu gyfarwyddiadau ar gyfer pob cam. Yna caiff y tasgau eu cysylltu â chalendr sy'n galluogi'r defnyddiwr i drefnu gweithgareddau ymlaen llaw a gellir gosod hysbysiadau os oes angen. Mae nodweddion GPS wedi'u hintegreiddio'n llawn yn yr ap hwn sy'n galluogi'r defnyddiwr i ddefnyddio Google Maps, a gellir hefyd rannu tasgau drwy e-bost ag eraill sy'n defnyddio'r ap.
Trefnu Mae ap GoConqr yn helpu i wneud dysgu'n haws. Cewch fynediad at adnoddau dysgu gwych megis mapiau meddwl, cardiau fflach, cwisiau, sleidiau a nodiadau, neu ddefnyddio'r ap GoConqr i ddysgu mewn ffordd gymdeithasol a chysylltu a chydweithio â ffrindiau, cyd-fyfyrwyr a dysgwyr mewn grwpiau.
Panig Stop panic & Anxiety – Self help – Defnyddiwch sain Panic Assistance i'ch hyfforddi pan fyddwch yn cael pwl o banig ac i'ch helpu i ddysgu i reoli a goddef y symptomau o orbryder. Gellir hefyd ei ddefnyddio i gynorthwyo â therapi dod i gysylltiad â ffynhonnell y gorbryder ar gyfer Agoraphobia.
Diogelwch Cofrestrwch eich ffrindiau a theulu gydag iOkay, a thrwy glicio ar y botwm gwyrdd unwaith, gallwch roi gwybod iddynt eich bod yn iawn ac anfon eich union leoliad atynt, neu drwy bwyso ar y botwm coch unwaith, gallwch ofyn am help ar unwaith. Gallwch hefyd anfon eich cyfesurynnau GPS mewn amser real.
Diogelwch Mae SafeZone yn ap rhad ac am ddim sy'n eich cysylltu'n uniongyrchol â thîm ymateb eich sefydliad pan fydd angen help arnoch.
Hunan-niwed Mae Calm Harm yn cynnig tasgau i'ch helpu i ailosod neu reoli'r ysfa i hunan-niweidio. Dechreuwch arni drwy osod eich cyfrinair fel ei fod yn gwbl breifat. Yna mae'r ap yn rhoi pedwar categori o dasgau i'ch helpu i oresgyn yr ysfa. Mae ‘Distract' yn helpu wrth ddysgu hunanreolaeth; mae 'Comfort' yn eich helpu i ofalu yn hytrach na niweidio; mae 'Express yourself' yn sicrhau eich bod yn mynegi teimladau mewn ffordd wahanol ac mae 'Release' yn cynnig dewisiadau diogel eraill i hunan-niweidio. Ceir hefyd gategori 'Breathe' i'ch helpu i beidio â chynhyrfu a chymryd rheolaeth unwaith eto.
Straen Pacifica – Gall straen, gorbryder ac iselder eich atal rhag byw eich bywyd. Mae Pacifica yn rhoi adnoddau a luniwyd gan seicolegydd i fynd i'r afael â hwy gan ddefnyddio therapi gwybyddol ymddygiadol, myfyrdodau ymwybyddiaeth ofalgar, ymlacio ac olrhain hwyliau/iechyd.
Hunanladdiad Stay Alive – Adnodd atal hunanladdiad yn y DU i ffitio yn eich poced yw'r ap hwn, sy'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau i'ch helpu i aros yn ddiogel mewn argyfwng. Gallwch ei ddefnyddio os ydych yn ystyried hunanladdiad neu os ydych yn poeni am rywun arall a allai fod yn ei ystyried.
Hunanladdiad Crëwyd MYPLAN â'r nod o fod yn adnodd hunangymorth i reoli argyfwng hunanladdol. Trwy fod ar gael yn hawdd, nod yr ap yw gwneud i ddefnyddwyr deimlo'n fwy diogel yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau. Yn ogystal, dyluniwyd yr ap i godi ymwybyddiaeth o symptomau argyfwng drwy gydnabod y rhain yn well a sefydlu profiad eich hun gyda sgiliau hunangymorth.
Lles Happify Mae'r ffordd rydych chi'n teimlo yn bwysig. Os ydych yn teimlo dan straen, yn poeni, yn isel neu os ydych yn ymdrin â meddyliau negyddol yn gyson, gall Happify roi adnoddau a rhaglenni effeithiol i chi gymryd rheolaeth dros eich lles emosiynol. Datblygwyd ein technegau profedig gan arweinwyr ac arbenigwyr blaenllaw sydd wedi bod yn astudio ymyriadau ar sail tystiolaeth ym meysydd seicoleg gadarnhaol, ymwybyddiaeth ofalgar a therapi gwybyddol ymddygiadol am ddegawdau.
Lles WellMind yw eich ap iechyd meddwl a lles GIG am ddim, a luniwyd i'ch helpu gyda straen, gorbryder ac iselder. Mae'r ap yn cynnwys cyngor, argymhellion ac adnoddau i wella eich iechyd meddwl a rhoi hwb i'ch lles. Cofnodwch a monitrwch eich teimladau i olrhain eich hwyliau dros amser. Gallwch atgoffa eich hun o'r hyn rydych yn edrych ymlaen ato, olrhain eich cyflawniadau dyddiol a chofnodi'r hyn rydych chi'n ddiolchgar amdano i annog iechyd meddwl da. Gallwch ychwanegu negeseuon atgoffa i roi hwb i'ch lles, neu ddigwyddiadau rydych yn edrych ymlaen atynt.
Lles Math newydd o ap yw Chill Panda sy'n ein galluogi ni i ddechrau deall sut mae eu corff yn ymateb i wahanol deimladau. Gallwch ddefnyddio'r ap i fesur cyflymder y galon, defnyddio graddfa syml i roi sgôr i'ch teimladau, ac yna wneud rhai gweithgareddau sy'n seiliedig ar chwaraeon  a ddangoswyd i chi gan eich rhithffurf panda i ddechrau dysgu am hyn. Ei nod yw gwella'r ffordd rydych yn hunan-rheoleiddio emosiynau drwy gyflwyno syniadau a sgiliau a allai helpu teuluoedd a plant i ddeall y berthynas rhwng eu teimladau, cynyrfiadau yn y corff a gweithgareddau gwahanol.
Lles Mae Breathe2Relax yn adnodd rheoli straen symudol sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am effeithiau straen ar y corff a chyfarwyddiadau ac ymarferion i helpu defnyddwyr i ddeall y sgil rheoli straen o'r enw anadlu diaffragmatig. Cofnodwyd bod ymarferion anadlu yn cynyddu ymateb 'ymladd neu ffoi' (straen) y corff, ac yn helpu o ran sefydlogi hwyliau, rheoli dicter a rheoli gorbryder.

Nid yw Prifysgol Abertawe/y Gwasanaethau Lles yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys, cost na defnydd y cymwysiadau hyn - canllaw defnyddiol yw hwn, ar sail adborth gan fyfyrwyr a staff sydd wedi'u defnyddio.