Rhaglen ymchwil Abertawe ar Eogiaid yr Iwerydd i dderbyn hwb cyllido gan RCUK a

Bydd dau o brosiectau ymchwil Prifysgol Abertawe’n derbyn cyllid drwy grantiau â’r nod o wella dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar ddyframaeth gynaliadwy. Bydd y cyllid hwn yn atgyfnerthu Canolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy’r Brifysgol sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil dyframaeth yn y DU.

Professor Carlos Garcia de Leaniz

Bydd yr ymchwil a arweinir gan yr Athro Carlos Garcia de Leaniz a Dr Sonia Consuegra, o Adran y Biowyddorau yn y Coleg Gwyddoniaeth, yn archwilio sut y mae mecanweithiau epigenetig yn gallu helpu i reoli straen ac ymwrthedd i afiechydon ymhlith eogiaid yr Iwerydd.

Mae’r prosiect yn un o  21 o brosiectau ymchwil newydd yn y DU  a fydd yn derbyn £5M mewn cyllid gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol  (BBSRC) a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) i wella cynaliadwyedd dyframaeth.  

Mae’n cynrychioli cydweithrediad amlddisgyblaethol rhwng y Coleg Gwyddoniaeth a’r Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgolion Caerdydd, East Anglia, ac Aberdeen.

Mae hefyd wedi derbyn cymorth gan ddau o’r cwmnïau mwyaf yn y byd sy’n cynhyrchu pysgod, Marine Harvest Scotland a Landcatch Natural Selection of Hendrix-Genetics, yn ogystal â chan Sainsbury’s. Mae tîm Abertawe hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect arall ar eogiaid yr Iwerydd, a arweinir gan Brifysgol Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban.

Meddai’r Athro Garcia de Leaniz: “Rydym wrth ein boddau bod dau o’n prosiectau ar eogiaid yr Iwerydd wedi’u dewis i dderbyn cyllid gan Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK), gan y bydd y rhain yn caniatáu i ni edrych eto ar hen broblem: gwyddys ers amser hir y gall amodau a brofir yn ystod datblygiad gael effeithiau difrifol yn nes ymlaen mewn bywyd, er enghraifft trwy wneud anifeiliaid yn llai neu’n fwy agored i barasitiaid ac afiechydon.

“Y broblem yw nad ydym wir yn gwybod pam neu sut, er ein bod yn tybio y gallai newidiadau epigenetig chwarae rôl. 

“Mae epigeneteg yn archwilio sut y gall ffactorau amgylcheddol newid mynegiant genynnau, dull sydd wir ar flaen y gad ym maes ymchwil iechyd a chanser mewn pobl. Ein dau brosiect ni fydd y cyntaf i ddefnyddio epigeneteg mewn ffermio pysgod.”

Mae’r sector dyframaeth yn chwarae rôl hollbwysig wrth fwydo poblogaeth sy’n tyfu, a fydd yn codi i 9BN erbyn 2020. Yn y DU, gwerth dyframaeth mewn cynhyrchu pysgod megis eogiaid a sewin yw oddeutu £580M y flwyddyn ac mae’r ffigur hwn yn codi. Mae heriau i’r diwydiant megis afiechyd a stociau a ffermir yn cael eu heintio gan barasitiaid yn cael effaith ddinistriol.

Meddai’r Athro Melanie Welham, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth BBSRC: “I helpu wrth sicrhau stociau dyframaeth cynaliadwy ar gyfer cymdeithas a’r economi, mae angen sylfaen ymchwil eang iawn er mwyn deall bioleg ac iechyd rhywogaethau a ffermir. Mae ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngweithiadau rhwng diwydiant a’r ecosystem yn hanfodol er mwyn sicrhau cynhyrchiant cynaliadwy ar gyfer y ffynhonnell fwyd iachus a maethlon hon.”                  

Mae’r prosiectau a ariennir dan yr alwad hon hefyd yn derbyn cymorth gan y cyd-arianwyr, Canolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddorau Dyframaeth (Cefas), Marine Scotland Science a Llywodraeth yr Alban.

Am ragor o wybodaeth ewch i

http://www.bbsrc.ac.uk/funding/opportunities/2014/joint-nerc-fish-health-disease.aspx.