Astudiaeth ar ddiogelwch cleifion yn datgelu rhesymau pam nad yw meddygon teulu’n adrodd am ddigon o ddigwyddiadau Mae ymchwil newydd gan academyddion o Brify

Mae ymchwil newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe ar ddiogelwch cleifion mewn gofal sylfaenol wedi dangos y gall meddygon teulu fod yn anfodlon adrodd am wallau mewn diogelwch cleifion, eu bod yn dethol y digwyddiadau y maent yn rhoi adroddiadau amdanynt a bod angen systemau adrodd newydd er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.

Dr David ReaYn yr adroddiad  a gyhoeddwyd yn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Gymuned, gwnaeth Dr David Rea, o Goleg y Celfyddydau a’r Gwyddorau Iechyd  hefyd ganfod nad yw meddygon teulu’n hyderus y bydd yr adroddiadau ar wallau mewn diogelwch cleifion yn cael eu darllen ac roeddent hefyd yn amau a fyddai gwersi’n cael eu dysgu gan yr adroddiadau hynny ac a fyddai camau gweithredu yn cael eu cymryd mewn ymateb iddynt.

Meddai Dr Rea: “Mae niferoedd uchel o wallau’n debygol mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac nid yw hyn yn syndod o ystyried mai dyma le y ceir y cyswllt mwyaf gyda chleifion. Fodd bynnag, mae diogelwch cleifion yn destun pryder cynyddol mewn gofal iechyd ac felly canolbwynt yr astudiaeth oedd canfod pam na wneir adroddiadau am nifer sylweddol o wallau mewn diogelwch cleifion mewn gofal sylfaenol.”

Edrychodd yr ymchwil ar sampl o 17 o feddygfeydd meddygon teulu a chanfuwyd mai’r prif rwystrau i feddygon teulu wrth adrodd am wallau diogelwch oedd:

  • Diffyg amser i adrodd am wallau
  • Diffyg eglurdeb o ran y math o ddigwyddiadau y dylid gwneud adroddiadau amdanynt
  • Diffyg adborth gan y Bwrdd Iechyd
  • Ofn bai
  • Niwed i enw da
  • Effaith ar hyder cleifion

Meddai Dr Rea: “Ymhlith y prif rwystrau o ran adrodd am ddigwyddiadau o fewn y feddygfa oedd yr amser y mae’n ei gymryd i roi adroddiad a thrafod digwyddiad, ac roedd hefyd ofn ynghylch bai a niwed i enw da a hyder cleifion, yn enwedig yn yr amgylchedd cystadleuol presennol. Fodd bynnag, roedd rhwystrau eraill o ran adrodd am ddigwyddiadau’n cynnwys diffyg eglurdeb ynghylch i bwy y dylid adrodd ac i ba ddiben y byddai’r wybodaeth yn cael ei defnyddio”. 

Un o ddibenion rhoi adroddiadau am wallau yw hwyluso dysgu, felly mae’n destun pryder bod yr ymchwil hon wedi dangos bod meddygon teulu’n cael eu rhwystro gan ddiffyg adborth ynghylch y gwersi sy’n cael eu dysgu gan wallau: dywedon nhw y byddant yn fwy parod i adrodd am ddigwyddiadau pe bai’r broses ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau’n fwy cefnogol a phe roddid amser i drafod digwyddiadau.

Meddai Dr Rea: “Mae’r astudiaeth wedi taflu goleuni ar ganfyddiadau meddygon teulu o ran gwerth adrodd am ddigwyddiadau ynghyd â’r amrywiaeth sy’n codi yn sgil adrodd dewisol. Mae hefyd yn codi cwestiynu ynghylch effeithiolrwydd y prosesau adrodd.”