Ar ôl i chi dderbyn cynnig i astudio yn Abertawe, bydd y tîm Ewch yn Fyd-eang yn anfon gwybodaeth atoch sy'n cynnwys eich rhif myfyriwr 6 digid, y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau eich cais am lety ar-lein. Ni allwch chi gwblhau eich cais heb yr wybodaeth gan y Tîm Ewch yn Fyd-eang.
Er nad ydym yn ymrwymo i ddarparu llety ar gyfer myfyrwyr ymweld a chyfnewid, gallwch gyflwyno cais serch hynny. Am y cyfle gorau o gael llety, dylech chi gyflwyno cais cyn:
Blwyddyn Lawn (Medi - Mehefin): 30 Mehefin
Semester 1 (Medi - Ionawr): 30 Mehefin
Semester 2 (Ionawr - Mehefin): 30 Tachwedd
Pryd byddaf yn gwybod bod llety ar gael i mi?
Blwyddyn Lawn: Fel arfer, caiff ystafelloedd eu cynnig i fyfyrwyr Ymweld a Chyfnewid ar ôl i ni gyflawni'n hymrwymiad i neilltuo ystafelloedd i'n myfyrwyr amser llawn. Bydd hyn yn digwydd ar ôl i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr dderbyn canlyniadau eu harholiadau tua diwedd mis Awst. Yna caiff cynigion eu hanfon bob dydd bron.
Un semester: Dylech dderbyn cynnig ystafell o fewn pythefnos o gyflwyno cais, ond o leiaf bythefnos cyn cyrraedd. Gwiriwch eich cyfrif e-bost a llety o leiaf unwaith yr wythnos i wirio am y diweddaraf ynghylch dyrannu llety.
Fel arfer, ni fydd modd terfynu'ch contract yn gynnar ar ôl i chi ei lofnodi. Rydych chi’n rhwym wrth amodau eich contract ac efallai y bydd yn rhaid fynd drwy broses apelio i gael eich rhyddhau.
Talu eich Ffïoedd Llety
- Bydd rhaid i chi dalu blaendal i gadw'ch ystafell o fewn saith niwrnod o dderbyn eich cynnig – caiff hyn ei ddidynnu o'ch taliad rhent olaf.
- Sylwer, ni chaiff y blaendal hwn ei ad-dalu nes ymlaen os dewiswch ganslo'r llety a neilltuwyd i chi.
- Mae gwybodaeth lawn ynghylch pryd a sut i dalu am y llety ar gael yma: Cyllid a Ffïoedd
- Un semester: Bydd angen i chi dalu am lety'r semester llawn erbyn y dyddiad a nodir ar eich cytundeb tenantiaeth.
Myfyrwyr Ymweld o UDA sy'n Talu Ffioedd Yn Unig
Hyd yn oed os bydd eich prifysgol gartref yn UDA yn talu costau eich llety'n uniongyrchol i Brifysgol Abertawe, chi sy'n gyfrifol am drefnu eich llety eich hun, ond ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw beth i ni heblaw am eich blaendal cadw lle wrth gyflwyno eich cais ar-lein. Cysylltwch â'r swyddfa Astudio Dramor yn eich prifysgol gartref i holi a yw hyn yn berthnasol i chi.