Yn Chwaraeon Abertawe, rydym yn cynnig rhaglenni perfformiad rygbi a phêl-droed i ddynion a merched, yn ogystal â nofio, hoci a thennis bwrdd.
Rydym yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol profiadol a hynod gymwysedig i reoli a chyflwyno ein rhaglenni perfformiad, sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant a chymorth dwys er mwyn helpu ein hathletwyr gorau i wella eu perfformiad yn barhaus a gwireddu eu llawn botensial.
Rydym yn meithrin ac yn datblygu ein hathletwyr mwyaf talentog drwy becynnau ysgoloriaeth cynhwysfawr wedi'u cynllunio i helpu ein hysgolorion chwaraeon i ragori'n academaidd, yn ogystal ag yn y chwaraeon a ddewiswyd ganddynt.
Cliciwch ar y lluniau isod i ddysgu mwy am ein pecynnau cymorth a'n chwaraeon perfformiad cyfredol.
Chwaraeon Perfformiad Uchel
Edrychwch ar ein Chwaraeon Perfformiad Uchel:
Chwaraeon Perfformiad
Edrychwch ar ein chwaraeon perfformiad:
Chwaraeon Ffocws
Mae gan Chwaraeon Abertawe'r uchelgais o fwyafu cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglenni chwaraeon o safon, wrth hyrwyddo datblygiad personol a datblygiad mewn chwaraeon. O ganlyniad, mae gennym ni chwe Chwaraeon Ffocws a fydd yn cael adnoddau ychwanegol i helpu i alluogi eu llwyddiant yn BUCS.
Mae Chwaraeon Ffocws yn cael cymorth ychwanegol o dîm Chwaraeon Abertawe, gan gynnwys:
- Ariannu hyfforddwyr
- Cryfder a chyflyru
- Cymorth recriwtio
- Adnoddau penodol i glybiau e.e. cludiant a chyfarpar
- Mynediad at adnoddau ysgoloriaethau
Cliciwch ar y lluniau isod i ddysgu rhagor am ein Chwaraeon Ffocws.