Datblygu Dysgu ac Addysgu trwy SALT
Cymuned addysgegol sefydledig, sy'n cefnogi ac yn galluogi datblygu rhagoriaeth addysgu.
Ewch i dudalennau gwe SALT ar Fewnrwyd y Staff trwy ddilyn y ddolen hon.
(Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Prifysgol Abertawe)
Mae SALT yn gweithio gydag aelodau staff academaidd i atgyfnerthu a gwella eu haddysgu, eu hasesu a dysgu eu myfyrwyr. Mae gan bob ysgol yn y Brifysgol ei harweinydd SALT dynodedig sy'n gweithio fel cyswllt dwyffordd, ac sy'n gyfrifol am gyfathrebu ac ategu mentrau SALT.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
- Cydnabyddiaeth athro a dyfarniadau
- Cefnogi'r staff addysgu wrth iddyn nhw ddefnyddio technoleg i wella dysgu ac addysgu
- Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus rheolaidd â ffocws addysgu ac ystod eang o adnoddau hunangyfeiriedig
- Cyngor ac arweiniad ar addysgu hygyrch a chynhwysol
- Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol
- Yn cyflwyno ac yn cefnogi'r PGCert ar gyfer staff addysgu (wedi'i achredu gan Advance HE)
- Cydnabod ymroddiad staff i ddysgu ac addysgu drwy ein rhaglen strwythuredig ac achrededig Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch