Byw oddi ar y campws
Mae byw mewn llety preifat yn ffordd wych o ymdrochi'n llawn yn ein dinas a'i diwylliant. Bydd yn cynnig mwy o breifatrwydd, a'r gallu i ddewis pwy rydych chi'n byw gyda nhw, a ble rydych chi'n byw. Bydd y rhan fwyaf o lety preifat yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd i fyfyrwyr yn Abertawe, a bydd cysylltiadau trafnidiaeth da a mynediad at siopau, barau a busnesau bwyd. Fel arfer, bydd rhannu tŷ â ffrindiau yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn.
Os ydych chi'n penderfynu y byddai'n well gennych fyw oddi ar y campws, mae digon o lety o ansawdd da yn y sector preifat:
BWRDD NEGESEUON MYFYRWYR
Mae Bwrdd Negeseuon Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n galluogi myfyrwyr i gyfarfod a sgwrsio â myfyrwyr eraill sy’n dymuno rhannu llety yn ardal Abertawe. Defnyddiwch y bwrdd negeseuon i ddod o hyd i ystafelloedd sydd ar gael a chyd-letywyr, neu i roi gwybod i fyfyrwyr os oes ystafell yn sbâr yn eich tŷ myfyrwyr. Os ydych yn asiant/landlord sy'n dymuno hysbysebu llety myfyrwyr ar Studentpad ewch i'r dudalen Asiant/Landlord.
St Thomas a Phort Tennant
- Lleoliad delfrydol ar gyfer Campws y Bae a chanol y ddinas, gyda barrau, siopau a bwytai
- Tai 4-6 ystafell wely yn bennaf
- 5 i 10 munud o gerdded i Gampws y Bae