Bargyfreithiwr blaenllaw i roi darlith ar gynllunio cymunedol a’r Gymraeg

Ar ddydd Iau 19 Ebrill, bydd y bargyfreithiwr blaenllaw, Gwion Lewis, yn rhoi darlith ar gynllunio cymunedol a’r Gymraeg, gan awgrymu syniadau ar gyfer diwygio’r drefn.

Bydd y ddarlith, ‘Cynllunio a'r iaith Gymraeg: Sut i godi tai a chael miliwn o siaradwyr erbyn 2050’ yn cael ei chynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd o 1.30pm. Trefnir y ddarlith gan felin drafod Prifysgol Abertawe, Academi Morgan.

Yn ystod y ddarlith bydd Mr Lewis yn trafod ei weledigaeth ar gyfer haen newydd o gynlluniau cymunedol, yn rhoi mwy o reolaeth i gymunedau dros y tai a’r datblygiadau eraill sy’n cael eu codi yn eu hardaloedd. Bydd Mr Lewis hefyd yn dadlau y dylid dysgu gwersi o gyfraith yr amgylchedd ynglŷn â sut i asesu a rheoli’r effaith y mae datblygiadau newydd yn ei chael ar yr iaith Gymraeg.

Gwion Lewis

 

 

 

 

 

 

 

 

Ers 2017, mae Mr Lewis wedi bod yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg, sydd yn gyfrifol am gynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sydd yn berthnasol i’r Gymraeg.

Yn siarad cyn y ddarlith, meddai Mr Lewis: “Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn dangos fod gan y Cynulliad yr awydd i sefydlu deddfau cynllunio sydd wedi eu teilwra ar gyfer anghenion Cymru. Er hyn, mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau yn rhai trefniadol eu natur yn hytrach na newidiadau o sylwedd. Rwy’n credu ei bod yn bryd i ni ofyn cwestiynau sylfaenol ynglŷn ag a yw’r gyfundrefn gynllunio bresennol yn rhoi digon o reolaeth i gymunedau Cymreig dros ddatblygiadau yn eu hardaloedd. Oni ddylem ni, erbyn hyn, ddeddfu o blaid “cynllunio cymunedol”? Mae angen i ni hefyd newid natur y drafodaeth a gweld y berthynas rhwng datblygiadau newydd a bywiogrwydd cymunedau Cymreig fel cyfle yn hytrach na phroblem. Rwy’n gobeithio y bydd y ddarlith yn dechrau’r broses honno.”

Meddai Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan: “Mae Academi Morgan yn falch dros ben o fod yn cynnal y ddadl bwysig ac amserol hon, a hyderwn y bydd yn gwneud cyfraniad i ddatblygiad polisi Llywodraeth Cymru wrth i bolisïau newydd ddatblygu.”

Gwion Lewis

Mae gan Gwion Lewis BA a BCL (dosbarth cyntaf) mewn Cyfreitheg o Goleg yr Iesu, Rhydychen. Gynt yn Ysgolhaig Fulbright D.U.-U.D.A , mae ganddo LLM o Brifysgol Efrog Newydd yn arbenigo mewn hawliau dynol rhyngwladol, hawliau iaith a’r berthynas rhwng cyfraith a diogelwch. Wedi iddo raddio o Brifysgol Efrog Newydd, cwblhaodd ymchwil ar gyfer ei lyfr cyntaf, Hawl i’r Gymraeg, yn Sefydliad y Brifysgol Ewropeaidd yn Fflorens, fel Ysgolhaig Saunders Lewis.

Galwyd Gwion i’r Bar yn 2005. Ers hynny mae wedi dod yn fargyfreithiwr blaenllaw gyda Landmark Chambers yn Llundain, yn arbenigo yn y gyfraith gyhoeddus, y gyfraith gynllunio, cyfraith yr amgylchedd, cyfraith Ewrop a’r gyfraith gyhoeddus ryngwladol. Mae’n aelod o Banel “A” Cwnsleriaid Iau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, sydd yn golygu ei fod yn cynrychioli’r ddwy lywodraeth yn gyson yn eu hachosion mwyaf cymhleth.