Ymwadiad a Hawlfraint

Gwybodaeth am gynnwys ar wefan y Brifysgol

Ymwadiad

Gwna Prifysgol Abertawe bob ymdrech i geisio sicrhau bod y deunydd a gyhoeddir ar brif weinyddwr Prifysgol Abertawe (http://www.swansea.ac.uk/) yn gyfredol ac yn gywrain.  Er hynny, nid yw'n derbyn cyfrifoldeb cyfreithiol am gamgymeriadau na bylchau, ac mae’n cadw’r hawl i wneud newidiadau (gan gynnwys ffioedd, rheoliadau a gwasanaethau, cynnwys y cyrsiau a’r ddarpariaeth), heb rybudd. 

Mae monitro pob tudalen, o gofio'r adnoddau sydd ar gael, yn waith  hir ag ymdrechgar. Fodd bynnag, caiff ceisiadau rhesymol am newidiadau eu trin fesul achos.

Nid yw Prifysgol Abertawe yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gyngor neu wybodaeth anghywir a ddarperir gan wefannau y mae modd eu cyrraedd drwy ddolenni ar wefan y Brifysgol.

Does gan Brifysgol Abertawe ddim rheolaeth golygyddol dros weinyddwyr ymylol yn y parth www.swansea.ac.uk.  Serch hynny, cedwir pob hawl i ddileu cynnwys oddi arnynt sy'n torri amodau'r hawlfraint – deunydd sarhaus, aflan, difenwol, anghywir neu sydd fel arall yn torri amodau'r polisi ar ddefnyddio cyfrifiaduron yn y Brifysgol.  Bydd y Brifysgol yn gweithredu'n syth os y daw problemau ar y gweinyddwyr ymylol yma i'r amlwg.

Hawlfraint

Daw pob darn a gyhoeddir ar weinyddwr gwe'r Brifysgol(http://www.swansea.ac.uk/) o dan (c) Hawlfraint Prifysgol Cymru Abertawe 2005, ar wahân i gynnwys a nodir yn eiddo hawlfraint rhywun arall.  Gall unigolion lwytho i lawr neu gopïo'r fath ddeunydd at ddefnydd personol yn unig. Os am gynnig ail-greu unrhyw ddeunydd arall dylid cysylltu â Swyddfa'r We, Yr Adran Farchnata, Adeilad yr Abaty, Prifysgol Abertawe SA2 8PP.  Cedwir pob hawl.

Mae gan y lluniau a'r delweddau sy'n ymddangos ar weinyddwr gwe'r Brifysgol hawlfreintiau amrywiol.  Maent i'w defnyddio ar dudalennau a gyhoeddwyd gan weinyddwr gwe'r Brifysgol yn unig.  Am fanylion ynglyn â lluniau unigol, cysylltwch â Swyddfa'r We os gwelwch yn dda.  Ni ddylid ail-greu delweddau heb gael caniatâd o flaen llaw.

Cais am Ddileu Gwybodaeth

Os ydych yn dymuno i ni ddileu unrhyw dudalen neu unrhyw destun o'r wefan, dylech gysylltu â www@abertawe.ac.uk.