Ymchwilwyr yn datblygu offer newydd i arsylwi ar gyrchau babŵns ym maestrefi Cape Town, De Affrica

Mae gwyddonwyr o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe'n rhan o dîm rhyngwladol sy'n ceisio gwella dealltwriaeth o'r gwrthdaro rhwng pobl a babŵns yn Cape Town, De Affrica.

Raiding Baboons 1"Mae cyrchoedd babŵns yn her ddifrifol ym mhenrhyn y Cape, De Affrica", meddai'r Athro Justin O'Riain o Brifysgol Cape Town, un o awduron astudiaeth a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 24 Mawrth 2017) gan y cyfnodolyn Animal Biotelemetry, sydd wedi bod yn astudio babŵns yn y rhanbarth ers dros ddegawd.

"Mae'r babŵns yn mynd i mewn i erddi ac yn dwyn o finiau, ond maen nhw hefyd yn mynd i mewn i gartrefi ac weithiau'n dwyn bwyd yn uniongyrchol oddi wrth bobl."

Mewn astudiaeth flaenorol, dangosodd y tîm fod y strategaeth rheoli'n rhwystro'r babŵns rhag dod i mewn i ardaloedd trefol ond bod rhai gwrywod yn dyfeisio ffyrdd o ddod i mewn er gwaethaf hyn. Felly, roedd y tîm yn awyddus i ddeall sut roedd y babŵns yn llwyddo i wneud hyn.

"Roedd eu cyrchoedd mor gyflym ac mor ffyrnig, doedd dim modd i ni eu dilyn ar droed mewn ardaloedd trefol â waliau a ffensys diogelwch uchel. Roedd rhaid i ni ddyfeisio dull arall o gofnodi'r technegau arbennig iawn roedd y babŵns yn eu mabwysiadu yn eu cyrchoedd," meddai ymchwilydd PhD o Brifysgol Abertawe, Gaëlle Fehlmann, prif awdur yr astudiaeth a wnaeth y gwaith maes yn Ne Affrica.

"Yma yn Labordy Symudiadau Anifeiliaid Prifysgol Abertawe, rydym wedi bod yn datblygu technolegau newydd i astudio ymddygiad anifeiliaid, ac rydym yn defnyddio mesuryddion cyflymu i fesur faint mae anifail yn symud yn y tri dimensiwn," meddai Dr Mark Holton, cyd-awdur yr astudiaeth.

Raiding Baboons 2Mae dulliau o'r fath wedi cael eu defnyddio am dros ddegawd, ond gydag adar neu famaliaid y môr yn bennaf. Dyluniodd a chynhyrchodd tîm Abertawe goleri pwrpasol ar gyfer y babŵns a fyddai'n eu  galluogi i ddilyn symudiadau'r babŵns yn fanwl gywir.

"Darparodd y coleri cyntaf a ddefnyddiwyd yn ystod y tymor cyntaf yn y maes ganlyniadau diddorol, ond ni chawsom fwy nag ychydig wythnosau o ddata; roedd angen iddyn nhw fod yn gryfach i weddu i ymddygiad y babŵns," ychwanegodd Dr Andrew King, pennaeth grŵp ymchwil SHOAL (Cymdeithasoldeb, Cymysgrywiaeth, Trefniadaeth, ac Arweinyddiaeth) yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, sy'n uwch awdur yr astudiaeth.

Felly, aeth y tîm yn ôl i'r cam cynllunio a, diolch i sgiliau peirianneg Dr Mark Holton a Phill Hopkins, dyfeisiwyd y coler "F2HK".

"Gwnaethom ystyried pob manylyn bach, ac aethom mor bell â chomisiynu cyfrwywr lleol i gynhyrchu'r coler gan ddefnyddio lledr meddal iawn sy'n cael ei ddefnyddio fel arfer i leinio harneisiau ceffylau," esboniodd Ms Fehlmann, a greodd ffilm fer hefyd i recordio'r broses gyfan.

A rhagorodd y canlyniadau ar ddisgwyliadau. Casglodd y 10 coler a ddefnyddiwyd yn ystod yr ail dymor yn y maes werth 252 o ddiwrnodau o ddata, gan gofnodi cyflymu mewn 3 dimensiwn, 40 gwaith yr eiliad, a chofnodi data GPS ar gyfer pob eiliad hefyd.

Ychwanegodd Dr King: "Gan ddefnyddio'r data hyn, roeddem yn gwybod beth roedd y babŵns yn ei wneud ar gyfer eiliad roedd ein coleri yn cofnodi data; erbyn hyn, gallwn adnabod dros 90% o ymddygiadau babŵns heb erioed weld y babŵn!"

Yn sgil llwyddo i olrhain mân fanylion symudiadau babŵns o bell, y cam nesaf i'r tîm yw defnyddio'r dechnoleg hon i ddatgelu cyfrinachau tactegau cyrchu'r babŵns.

Gellir gweld copi llawn o'r papur, “Identification of behaviours from accelerometer data in a wild social primate", yn y cyfnodolyn Animal Biotelemetry, yma: http://animalbiotelemetry.biomedcentral.com/articles/10.1186/s40317-017-0121-3.


Cefnogwyd y gwaith hwn drwy grantiau ymchwil gan y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid; y Gymdeithas Bioleg Arbrofol; Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol; a Phrifysgol Abertawe yn y DU a chan Brifysgol Cape Town a'r Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol yn Ne Affrica.