Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Dr Frederico López-Terra, darlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd, ac fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn The Conversation.

File 20170425 27254 1lgamaf www.shutterstock.com

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Dr Frederico López-Terra, darlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd, ac fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn The Conversation.

Gwawriodd bore 26 Ebrill 1937 fel unrhyw fore arall yn Guernica, gogledd Sbaen. Roedd yn ddiwrnod marchnad, ac wrth i'r haul godi, daeth 10,000 o bobl leol, ffoaduriaid a gwerinwyr i ymgynnull yng nghanol y dref Fasgaidd draddodiadol. The Conversation

Ond ni fyddai hwn yn debyg i'r diwrnod marchnad arferol roeddent yn ei ddisgwyl. Roedd y wlad yng nghanol rhyfel cartref ac, erbyn 4.30pm, roedd anhrefn ymhob man.

The ruins of Guernica, shortly after the bombing in 1937. Everrett Historical/www.shutterstock.com

Am fwy na thair awr, i gefnogi achos gwrthryfelwyr Franco, gollyngodd Lleng Condor y Natsïaid ac Awyrlu Llengol yr Eidal Ffasgaidd 31 o dunellau o fomiau ar Guernica. Trodd yr ymgyrch fomio o'r awyr 85.22% o'r adeiladau'n adfeilion. Ac, er bod y ffigwr yn destun dadlau bellach, dywedodd y llywodraeth Fasgaidd i'r ymosodiad ladd 1,654 o bobl ac anafu 889 eraill.

Adfeilion Guernica, yn fuan ar ôl y bomio ym 1937. Everrett Historical/www.shutterstock.com

Ym 1936, roedd ymdrech aflwyddiannus gan grŵp o gadfridogion milwrol ffasgaidd i ddymchwel llywodraeth weriniaethol gyfreithlon Sbaen wedi peri'r hyn a fyddai'n datblygu'n rhyfel cartref gwaedlyd tair blynedd o hyd yn Sbaen, gan arwain at 36 o flynyddoedd o unbennaeth dan y Cadfridog Franciso Franco. Erbyn adeg yr ymosodiad, roedd Guernica'n gartref i ffoaduriaid sifilaidd Gweriniaethol ac roedd ysbyty rhyfel dros dro wedi'i sefydlu. Ond nid oedd y naill na’r llall o'r ffactorau hyn yn rheswm dros wneud y dref yn darged milwrol allweddol - felly pam y bomio?

Guernica y symbol

Nid oedd y dref yn ganolfan bwysig megis Madrid neu Barcelona. Ond ar ôl cael eu trechu yn Guadalajara wrth geisio gorchfygu Madrid, dysgodd gwrthryfelwyr Franco bwysigrwydd buddugoliaethau cymedrol ond â phŵer symbolaidd. Gyda dinas Bilbao gerllaw yn dal i wrthsefyll eu hymosodiadau, gwelodd y ffasgyddion hyn fuddugoliaeth sicr yn Guernica.

Yn yr un modd, nid oedd yr Almaen Natsïaidd byth wedi ystyried Sbaen yn bartner strategol ac nid oedd gan y Natsïaid ddiddordeb arbennig yn rhyfel cartref Sbaen. Yn hytrach, defnyddient y wlad i arbrofi â strategaethau newydd i baratoi ar gyfer yr Ail Rhyfel Byd. Cyfiawnhaodd y Natsïaid yr ymosodiad ar Guernica fel un o bwys strategol i gefnogi cyrch lluoedd Franco ar Bilbao. Ond y gwir yw nad oedd unrhyw ddifrod i Bont Rentería, sef y prif fynediad strategol i'r dref, ar ddiwedd y bomio.

I gefnogwyr Franco, roedd Guernica yn symbol o wrthsafiad y Basgiaid, a Sbaen amlgenedl, a oedd yn fygythiad i'w prosiect o sefydlu cyfundrefn dotalitaraidd. Fel y dywedai'r Cadfridog Emilio Mola, arweinydd ymgyrch filwrol y gwrthryfelwyr yn y gogledd:

"Mae angen lledaenu terfysg. Mae'n rhaid i ni greu'r argraff o feistrolaeth sydd, heb amheuon nac oedi, yn cael gwared ar bawb nad ydynt o'r un meddylfryd â ni."

Ar gyfer pob parti a fu'n ymwneud â'r ymosodiad, roedd Guernica'n symbolaidd. Ond yr hyn nad oedd neb yn ei ddisgwyl oedd y byddai'n dod i gynrychioli llawer mwy na digwyddiadau 26 Ebrill 1937 yn unig.

Coffáu Guernica

Roedd Ffair y Byd Paris, a fyddai'n agor ym mis Mai 1937, yn llwyfan perffaith i'r llywodraeth Weriniaethol gyfreithlon ddweud wrth y byd am erchyllterau'r gwrthryfel ffasgaidd annemocrataidd yn Sbaen a phŵer cynyddol ffasgaeth yn Ewrop. Comisiynodd yr awdurdodau Sbaenaidd Pablo Picasso i baentio murlun yn portreadu'r sefyllfa. Derbyniodd, ond rhybuddiodd efallai na fyddai'n gallu cyflawni'r aseiniad.

Roedd ei gynfas yn wag tan yr ymosodiad ar Guernica. Yna, ymhen ychydig dros fis, roedd y gwaith - portread trawiadol o'r ymosodiad ffasgaidd ar y dref - yn barod.

Guernica gan Pablo Picasso

Roedd yn fwy na symbol o erchyllterau'r rhyfel yn Sbaen yn unig: o'r ail ryfel byd tan heddiw, mae Guernica gan Picasso wedi ein hatgoffa am erchyllterau holl ryfeloedd y byd, sydd wedi'i wneud yn gampwaith anghyfleus i'r rhai sy'n ceisio anwybyddu'r gorffennol neu ei gyfiawnhau, pan nad oes modd ei gyfiawnhau.

Anghofio hanes

I goffáu 80ain flwyddyn y paentiad, trefnodd amgueddfa genedlaethol celf yr 20fed ganrif Sbaen, Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía, arddangosfa dros dro, a ddenodd feirniadaeth yn gyflym gan y Gymdeithas ar gyfer Adfer Cof Hanesyddol oherwydd diffyg cyd-destun hanesyddol.

Mae'n cyflwyno darlun trylwyr o ddatblygiad estheteg bersonol Picasso, ond gan hepgor unrhyw gyd-destun hanesyddol mewn modd syfrdanol. Nid yw'r gair Francoism yn ymddangos o gwbl, ac ymddengys fod anfodlonrwydd defnyddio termau megis 'rhyfel cartref' neu 'ffasgaeth'. Dywedir mai'r Lleng Condor a fomiodd y dref, ond mae rôl Franco a'r gwrthryfelwyr yn aros heb ei hesbonio. Dywedodd curaduriaid yr arddangosfa "nad oedd y cyd-destun hanesyddol mor amlwg ag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, ond mae llawer eisoes wedi ymdrin â hyn ac nid yw’n mynd i ddiflannu".

Guernica, by Pablo Picasso. tichr/www.shutterstock.com

Fodd bynnag, gallai'r diffyg hwn o ran cof cyd-destunol arwain at ddehongliad anhanesyddol o'r byd. Mae Sbaen yn dal i ymdrechu i weithredu deddfwriaeth ynghylch cof hanesyddol a gymeradwywyd yn 2007 â'r nod o gydnabod hawliau dioddefwyr y rhyfel cartref ac unbennaeth Franco.

Mae'r gyfraith yn galluogi teuluoedd i wneud cais i adfer enw da unrhyw un a gafwyd yn euog o drosedd wleidyddol yn ystod teyrnasiad Franco. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cael gwared ar symbolau, gan gynnwys placiau, enwau strydoedd a cherfluniau. sy'n anrhydeddu Franco a'i gyfundrefn. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig, amddifadwyd y rheol hon o gyllid ers 2012, ac mewn rhai lleoedd, caiff ei hanwybyddu'n llwyr.

Mae'r ffaith bod Sbaen yn troi ei chefn ar hanes eisoes yn cael canlyniadau ofnadwy, gan ddarparu prawf amlwg o ba mor fyw y mae 'Francoism cymdeithasol' - hyd yn oed ar ôl i Sbaen droi'n wladwriaeth ddemocrataidd, mae arferion cymdeithasol teyrnasiad Franco yn goroesi. Nid yw cefnogi Franco yn drosedd, ond gall rhywun gael ei erlyn am watwar Franco neu'r symbolau ffasgaidd. Mae'r derfysgaeth go iawn, y polisi terfysg a arferai cyfundrefn Franco, heb ei chosbi o hyd, ac mae pobl yn Sbaen heddiw yn dal i ddioddef oherwydd etifeddiaeth Franco.

80 mlynedd ar ôl bomio Guernica, dylai Sbaen ddefnyddio'r achlysur hwn i gofio am ei gorffennol ac i anrhydeddu dioddefwyr rhyfel. Nawr, dylai'r paentiad a'r dref, mwy nag erioed, symboleiddio pwysigrwydd sylfaenol hawliau dynol a sefyll yn erbyn gormes. Ni ellir parhau i anwybyddu gwerth symbolaidd y lleoliadau cofio hyn ymhellach.

The Conversation Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation. Gellir darllen yr erthygl wreiddiol yma.