A yw bwydo â llwy yn wirioneddol yn creu babis gordew?

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Dr Amy Brown, Hannah Rowan, a Sara Wyn Jones o Brifysgol Abertawe a'i chyhoeddwyd yn wreiddiol ar safle The Conversation.


Gall penderfynu ar bryd a sut i gyflwyno babis i fwydydd solet fod yn anorchfygol i rieni. Ond ar wahân i'r amseru a'r swm, a allai sut caiff babis eu cyflwyno i fwydydd solet hefyd wneud gwahaniaeth i'w hiechyd? 

Tan yn gynnar yn yr 20fed ganrif, roedd babis tua diwedd eu blwyddyn gyntaf yn bwyta'r un bwyd â gweddill y teulu. Roedd hyn cyn i gychwyn y diwydiant bwyd babi arwain at y mwyafrif o fabis yng ngwledydd Gorllewinol y byd yn cael eu diddyfnu i fwydydd solet gan ddefnyddio bwydydd y cawsant eu paratoi a'u stwnshio yn arbennig i fabis gan eu bwydo â llwy.  

Fodd bynnag, ers i argymhellion y llywodraeth newid yn 2003 i gyflwyno bwydydd solet i fabis sy'n 6 mis oed mae niferoedd cynyddol o rieni wedi dychwelyd i adael i'w babis fwyta'r un bwyd â gweddill y teulu gan ddilyn dull diddyfnu a arweinir gan y babi. Awgryma tystiolaeth y gall oedi cyn cyflwyno bwydydd solet nes eu bod yn 6 mis oed ddiogelu rhag babis yn dod yn ordew. Felly rhoddir y gorau i lwyau a bwydydd stwnsh i adael i fabis fwyta ar eu cyflymder eu hunain - ac yn ddatblygiadol gallant wneud hynny yn 6 mis oed.

Babi'n bwyta

Canfu ymchwil fod rhieni yn dewis dull diddyfnu a arweinir gan y babi am ei bod yn creu amseroedd bwyd sy’n llai o straen ac yn haws (er yn fwy o lanast). Ond mae niferoedd cynyddol o rieni hefyd yn dewis dilyn y dull hwn am fod awgrymiadau y gallai helpu i'w babis ddatblygu arferion bwyta gwell a phwysau iachach - ond a yw hyn yn wir?

Y dystiolaeth hyd yma

Awgryma ymchwil gyfyngedig ar ddiddyfnu a arweinir gan y babi y gallai i ryw raddau helpu plant i ddatblygu arferion bwyta gwell. Mae plant cyn ysgol a ddilynodd ddull diddyfnu a arweinir gan y babi yn llai tebygol o fod yn dew na'r rhai y cawsant eu bwydo â llwy. Yn yr un modd, roedd babis a oedd wedi dilyn y dull yn llai tebygol o fod yn fwytawyr ffyslyd, yn llai tebygol o orfwyta ac yn llai tebygol o fod yn dew.

Ond a yw hi wir mor syml â dweud bod defnyddio llwyau a bwydydd stwnsh o bosib yn rhoi babis mewn perygl o fod yn dew a datblygu arferion bwytawyr ffyslyd? Yn fras, nac ydy.

Esboniad mwy cytbwys yw bod diddyfnu a arweinir gan y babi yn hyrwyddo nifer o ymddygiadau sy'n llunio'n gadarnhaol ar chwant bwyd a datblygiad pwysau babis. Mae'r dull a arweinir gan y babi yn naturiol yn annog rhieni i adael i'w babis fynd ar eu cyflymder eu hunain wrth fwyta. Dengys ymchwil ar blant hŷn pan fod rhieni yn rheoli'n ormodol o ran beth a faint mae plentyn yn ei fwyta mae'r plentyn yn fwy tebygol o ddatblygu problemau gyda'i bwysau a dod yn fwytäwr ffyslyd. Mae babis a phlant bach yn dda o ran rheoleiddio cymeriant bwyd yn dibynnu ar anghenion egni ond gall rhieni yn eu hannog i fwyta'r holl fwyd ar eu platiau neu dynnu bwydydd penodol yn ôl fel eu bod yn dyheu amdanynt dorri hyn.

Ar y llaw arall, mae'r dull diddyfnu a arweinir gan y babi yn caniatáu i fabis fod mewn rheolaeth o'r sefyllfa yn hytrach na'u rheini. Er gall rhieni sy'n bwydo â llwy fod yn ymatebol gall y babi dderbyn mwy o fwyd nag y byddai wedi’i dderbyn wrth fwydo ei hun.

Gwyddem hefyd fod oedolion sy'n bwyta'n araf yn llai tebygol o fod yn dew. Gallai'r un peth fod yn wir ar gyfer babis: yn naturiol, mae'n cymryd mwy o amser i fabi bwydo ei hun a chnoi bwydydd cyflawn nag ydyw i fwyta bwydydd stwnsh ar lwy.

Mae'n bosib gall y ffordd caiff bwyd ei gyflwyno i fabanod sy'n dilyn rhaglen diddyfnu a arweinir gan y babi hyrwyddo cymeriant o amrywiaeth ehangach yn ogystal. Gall bwyd yn ei ffurf gyflawn nid yn unig fod yn fwy apelgar na bwyd stwnsh ond mae bwydo eu hunain hefyd yn caniatáu i fabis archwilio sut mae bwydydd yn teimlo. Gwyddem ei bod yn rhan bwysig o sut mae plant yn dysgu: pan gaiff plant hŷn chwarae â bwyd maent yn fwy tebygol o'i fwyta.

Pwysigrwydd y cyd-destun

Gallai’r agweddau bwydydd iach a enillwyd trwy ddull diddyfnu a arweinir gan y babi fod o ganlyniad i ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â'r profiad, fodd bynnag. Mae diddyfnu a arweinir gan y babi yn aml wedi'i gysylltu â bwydo ar y fron fel dilyniant naturiol. Mae mamau sy'n bwydo ar y fron wedi arfer ar eu babis yn bod mewn rheolaeth o’r bwydo - er bod babis sydd wedi'u bwydo trwy botel hefyd yn dilyn dull diddyfnu a arweinir gan y babi. Ar gyfartaledd, mae babis sydd wedi'u bwydo ar y fron yn llai tebygol o fod yn dew neu'n fwytawyr ffyslyd a gallai hyn esbonio'r gwahaniaeth yn hytrach na'r dull diddyfnu.

Gallai agweddau iach hefyd gael eu datblygu oherwydd y math o riant sy'n dewis dull diddyfnu a arweinir gan y babi. Fel arfer caiff babis sydd â natur anodd eu diddyfnu yn gynharach, cyn y pwynt 6 mis a argymhellir, gan olygu eu bod yn fwy tebygol o gael eu bwydo â llwy. Mae mamau sy'n fwy pryderus am eu babis hefyd yn fwy tebygol o fwydo â llwy. Mae'r pryder hwn yn gysylltiedig â bwydo anymatebol a all gynyddu'r risg o'r plentyn bod yn dew.

Yn gyffredinol, nid yw'n ateb clir ond mae ymchwil bresennol yn awgrymu y gallai babis sy'n dilyn dull diddyfnu a arweinir gan y babi fod yn fwytawyr gwell yn ogystal â bod â phwysau iachach ond mae angen i ragor o astudiaethau gael eu cynnal i gadarnhau hyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylai rhieni sy'n dewis bwydo â llwy bryderu. Mae'n annhebyg bod agweddau babis at fwyd yn gysylltiedig â llwyau yn benodol ond yn hytrach eu bod yn gysylltiedig â rhyngweithiadau bwydo cadarnhaol. Mae rhoi bwydydd stwnsh fel rhan o ddiet cymysg yn annhebygol o gael effaith negyddol; yr hyn sy'n bwysig yw amrywiaeth, cyfle i archwilio ac, yn bwysicaf oll, ymagwedd ymlaciedig at rianta.