Y gwir anghyffyrddus am symudedd cymdeithasol

A yw'n iawn i siarad â'ch plant ifainc? I ddarllen straeon amser gwely iddynt, i drafod y blodau ar bwys y safle bws, i wrando'n astud wrth iddynt ddisgrifio eu diwrnod?

Gadewch i ni ddilyn trywydd arall. A yw'n iawn i rieni drosglwyddo eu cyfoeth i'w plant? Fel bod y plant yn derbyn y tŷ, er enghraifft, pan fu farw mam. A chyn hynny, derbyn buddion bob dydd a hyn oll am fod eu rhieni yn weddol gyfoethog?

Efallai bod y cwestiynau hyn yn ymddangos fel eu bod yn ffug fwledi. Pam hyd yn oed eu gofyn? Mae siarad gyda'ch plant yn rhan o rianta da, onid yw e? Onid yw'r pleser o drosglwyddo pethau iddynt yn rhan o'u magu? Ble mae'r fagl, felly?

Stack of coins I weld hyn, mae'n helpu i edrych ar bethau o safbwynt y plant. A yw'n iawn ein bod yn y DU yn 2016 yn profi  amrywiaethau eithafol o ran lles plant - yn seiliedig ar eu safle cymdeithasol? Bod modd i ni wneud rhagolygon eithaf pendant am y rhyw 2,000 o fabanod y cânt eu geni bob dydd o ran ar hyd ba ffordd y bydd bywyd yn eu tywys a pha mor hir fydd eu bywydau - yn seiliedig ar gefndir eu dosbarth cymdeithasol? Neu, fel y noda canfyddiadau a gyhoeddwyd yn adroddiad cyflwr y genedl 2016 gan y Comisiynydd Symudedd Cymdeithasol fod un plentyn o bob 8 o gefndir incwm isel yn debygol o ddod yn enillydd incwm isel fel oedolyn?

Bydd y mwyafrif ohonom yn ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau cyntaf (am rieni) ac yn negyddol am yr ail ran o gwestiynau (am blant). Wrth wneud hynny dylem deimlo rhywfaint o anghysur. Mae'r gweithrediadau teuluol bob dydd yn rheswm hanfodol pam bod cyfleoedd bywyd plant yn parhau i fod mor anghytbwys. Mae bylchau enfawr o ran incwm neu o ran swm yr eirfa a ddefnyddir yn y cartref yn cael effaith sylweddol ar ba fath o fywyd fydd gan y plant o deuluoedd gwahanol yn y dyfodol. Yn aml, y rheswm dros hyn yw bod plant o deuluoedd mwy cyfoethog yn derbyn mwy o gyfleoedd yn hytrach nag oherwydd bod gan y plant llai breintiedig lai o gyfleoedd.

Rhagolygon

Mae "rhwystrau i symudedd cymdeithasol yn ymadrodd sy'n boblogaidd ymhlith nifer o bobl ac yn beth sydd hyd yn oed yn fwy prin - cytuno ar ei ystyr. Ni ddylai eich cefndir benderfynu eich bywyd yn y pendraw.

Mae Theresa May wedi gwneud gwireddu hyn yn nod diffiniol o'i chyfnod fel Prif Weinidog. Mae modd dadansoddi hyn mewn dwy ffordd: symudedd rhyng-genedlaethau yw safle dosbarth oedolyn o gymharu â safle dosbarth ei rieni. Felly po fwyaf o blant i weithwyr heb sgiliau, po fwyaf y symudedd sydd gennym. Mae symudedd mewn-cenedlaethau yn ymwneud â sut mae grwpiau gwahanol yn y gymdeithas arni ar unrhyw un adeg. Felly byddai symudedd optimaidd yn golygu plant i weithwyr heb sgiliau yn gwneud cystal â phlant y bancwyr.

A yw plant yn teimlo buddion symudedd optimaidd yn y DU ar hyn o bryd? Yr ateb yw nac ydyn - ac nid hynny'n unig, hefyd mae symudedd yn arafu. Mae cefndir mor bwysig ag erioed.

Mewn ysgolion y wlad, caiff y plant tlotaf sydd â'r lefelau cyrhaeddiad uchaf eu goddiweddyd gan y plant cyfoethocaf sydd â lefelau cyrhaeddiad cymedrol rhywle  rhwng 5 ac 16 oed. Mae'r plant tlotaf yn llawer llai tebygol o fynychu prifysgol elit  na'u cymheiriaid breintiedig. Ar gyfartaledd, byddant hefyd yn ennill llai, yn teimlo'n llai iach ac yn marw'n iau.

Yn syfrdanol, derbyniodd 71% o uwch feirniaid, 43% o ysgrifenwyr mewn papurau newyddion, 33% o Aelodau Seneddol a 22% o sêr y byd cerddoriaeth boblogaidd addysg breifat - o gymharu â 7% o'r boblogaeth ar y cyfan. 4% o feddygon yn unig sy'n hanu o gefndiroedd dosbarth gweithio. Ac mae'n ymddangos bod pawb - o 'r Morning Star i'r Daily Mail yn gresynu at yr ystadegau hyn.

Braint

Beth sy'n wirioneddol yn ein rhwystro rhag mynd i'r afael â hyn? Pam nad ydym yn trafod yn fwy cydlynol am anghydraddoldebau cyfrifoldebau bywyd? Mae fy ymchwil fy hun wedi canfod dau beth sy'n rhoi taw ar sgyrsiau.

Un yw bod "y teulu" yn sanctaidd ym maes gwleidyddiaeth. Ni fydd gwleidyddion yn siarad yn wael amdano neu'n cyffesu bod agweddau annwyl o fywyd teulu wedi'u cysylltu ag annhegwch sylweddol y mae pawb yn ei gasáu. Felly maent yn cerdded ar flaenau eu traed o amgylch y peth gan esgus y gallwn gyflawni cyfleoedd bywyd cydradd i blant heb ailosod ein rhagdybiaethau am fraint rhieni.

Cyn gadael ei swydd, lansiodd y cyn Brif Weinidog, David Cameron, strategaeth cyfleoedd bywyd a oedd am "roi'r offer i bob plentyn a fydd yn galluogi i'w botensial ddisgleirio". Roedd yn gywir i adnabod bod teuluoedd yn allweddol i hyn. Ac eto, ni chododd unrhyw gwestiynau am sut mae teuluoedd cyfoethog yn rhoi mantais i'w plant ar draul y rhai sy'n byw mewn tlodi. Ar y llaw arall, mae ei olynydd, Theresa May, mewn ffordd llawen iawn, wedi cysylltu ysgolion gramadeg gyda'r dyheadau sydd gan bob rhiant "yn naturiol" ar gyfer y pentwr o dystiolaeth eu bod yn atgyfnerthu breintiau y teulu hynny sydd eisoes mewn sefyllfa well yn ariannol.

Y peth arall sy'n ein rhwystro rhag mynd i'r afael â'r diffyg symudedd cymdeithasol yw trwy beidio â'i gysylltu ag anghydraddoldeb. Byddai gwahaniaethau teuluol yn gwneud llawer llai o ddrwg i gyfleoedd bywyd pe bai'r gymdeithas yn lle mwy cydradd. Felly os symudedd cymdeithasol yw'r broblem, nid hyrwyddo symudedd cymdeithasol yw'r ateb. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â lleihau canlyniadau anghydraddoldeb - y bwlch rhwng yr hyn sydd gan bobl wahanol yn y pendraw.

Bydd gan gymdeithas sydd ag agendor llai rhwng y rhai cyfoethog a'r rhai tlawd  lawer mwy o symudedd cymdeithasol. Pe baem yn eu profi efallai y byddwn yn trafod realiti cyfleoedd bywyd cydradd gan gadw wyneb sythach. Efallai gyda'n plant, wrth y safle bws.


Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan , uwch-ddarlithydd Gwyddorau Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol. 

Cyhoeddwyd yr erthygl yn wreiddiol ar wefan The Conversation. I ddarllen yr erthygl wreiddiol, cliciwch yma